Dosbarth Cymunedol Newydd yng Nghanolfan Sant Ioan

Mae Coleg Bannau Brycheiniog a Chanolfan Sant Ioan wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i groesawu nifer o ddysgwyr newydd i’r cyrsiau ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill), a gynhelir yn y ganolfan y tymor hwn.

Mae’r grŵp penodol hwn o fyfyrwyr ysbrydoledig yn mwynhau ymgymryd â’r her ar eu taith ddysgu ddiweddaraf.  Mae naws gyffrous o fewn y dosbarth hwn, wrth i fyfyrwyr wthio eu hunain i ddysgu sgiliau Saesneg newydd mewn gwrando, darllen ac ysgrifennu ar wahanol lefelau.

Dymunwn yn dda iddynt yn y dosbarth hwn ac rydym yn ffyddiog y byddant yn sicrhau achrediad wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi ac wrth i’w sgiliau ddatblygu ymhellach.

Gyda’r dosbarth nawr ar waith gyda myfyrwyr yn dangos ymrwymiad i ddysgu sgiliau newydd, mae’n ein hatgoffa bod cyfleoedd ar gael i ddysgwyr eraill sy’n oedolion.  Mae Coleg Bannau Brycheiniog, ynghyd â darparwyr addysg i oedolion eraill a llawer o sefydliadau, clybiau a grwpiau chwaraeon lleol yn cynnig cyfleoedd i gofrestru am ddim drwy gydol y flwyddyn.

P’un a ydych yn edrych am ddosbarthiadau nos TGAU i oedolion, cwrs ECDL (trwydded yrru gyfrifiadurol Ewropeaidd) astudio’n hyblyg, dosbarth dychwelyd i ddysgu llythrennedd a rhifedd, cwrs nid yw cyfrifiaduron yn brathu, ESOL neu amrywiaeth o gyrsiau dysgu uniongyrchol, gallai fod cwrs o ddiddordeb i chi. Mae llawer o’r cyrsiau hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddechrau drwy gydol y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Howells yn joanne.howells@nptcgroup.ac.uk

Photo: Myfyrwyr ESOL newydd gyda Jo Howells a Jacqui Griffiths o Goleg Bannau Brycheiniog ac Alix Miller, Gweithiwr Cymunedol a Chanolfan Sant Ioan.