Dewiniaeth Ddu Ysbrydion Ysblennydd

Mae myfyrwyr therapi trin gwallt a harddwch yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dangos eu sgiliau newydd gydag wythnos o arddangosiadau gwallt a cholur ysbrydion ysblennydd ar thema Calan Gaeaf.

Mae Wythnos Ysbrydoli a gynhelir ar draws yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol yn anelu at  dynnu sylw at y cynnydd a wnaed gan y myfyrwyr dros yr wyth wythnos ers dechrau’r flwyddyn academaidd. Cymerodd myfyrwyr o Goleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd ran yn yr her sgiliau, gyda llu o greadigaethau arswydus yn cael eu postio ar draws cyfryngau cymdeithasol y Coleg.

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol:

“Mae Wythnos Ysbrydoli yn gyfle i arddangos y dysgu ac addysgu gwych sy’n digwydd o fewn yr ysgol. Y syniad gwreiddiol oedd sefydlu cyfres o sgyrsiau ysgogol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, ond fe ddaeth yn amlwg i ni yn fuan mai’r ffordd orau o ysbrydoli ein myfyrwyr oedd rhoi cyfle iddynt ddangos cymaint y maent wedi’i ddysgu a sut mae eu sgiliau wedi cael eu datblygu.

“Mae Calan Gaeaf yn rhoi cyfle i ni adael i’r myfyrwyr gor-wneud technegau’r diwydiant fel y gallant gael tipyn o hwyl ar yr un pryd.”