Myfyrwyr yn ceisio gwaith yn heidio draw!

Denodd Ffair Swyddi Grŵp Colegau NPTC nifer enfawr o bobl yn ddiweddar gyda dros 500 yn awyddus i gael swydd wedi dod i’r digwyddiad i chwilio am waith.

Roedd y ffair, a drefnwyd gan Recriwtio NPTC, yn caniatáu i fyfyrwyr y Coleg gael mynediad at gyflogwyr sy’n recriwtio, yn enwedig y rhai sy’n ceisio gwaith tymhorol dros y Nadolig. Roedd y ffair hefyd yn gyfle i bobl siarad â chynrychiolwyr cwmnïau a gweld sut y gellid hybu eu sgiliau a’u rhagolygon am swyddi.

Cymerodd tua pymtheg o sefydliadau ran yn y digwyddiad blynyddol llwyddiannus gan gynnwys rhai cwmnïau adnabyddus fel Heddlu De Cymru, Gwesty Blanco, Gwesty’r Towers, Pizza Hut, Dominos a Compass Group sy’n recriwtio i gyflogwyr fel Stadiwm y Liberty.

Roedd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPT CVS) hefyd wrth law i roi gwybodaeth i fyfyrwyr am y lleoliadau gwirfoddol niferus sydd ar gael yn yr ardal, rhywbeth sydd bob amser yn fuddiol i CV neu gais i brifysgol.

Lansiwyd Recriwtio NPTC fel asiantaeth recriwtio i helpu myfyrwyr i gael cyflogaeth.

Dywedodd Cara Mead, Swyddog Menter a Chyflogadwyedd Grŵp Colegau NPTC:

“Gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diwethaf, denodd Ffair Swyddi Recriwtio NPTC amrywiaeth wych o gwmnïau yn cynnig lleoliadau rhan-amser a gwirfoddol i’n myfyrwyr. Roedd rhai myfyrwyr yn gallu gwneud cais yn y fan a’r lle, ac rydym eisoes wedi cael cadarnhad gan gwmnïau bod llawer o fyfyrwyr wedi cael eu gwahodd i gyfweliad.”