Lynnette yn rhoi sgiliau Arwain a Rheoli ar waith yn y gweithle

Mae gwybodaeth a sgiliau a ddysgodd Lynnette Davies ar Brentisiaeth Uwch yr ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5) gyda Grŵp Colegau NPTC wedi’i helpu i sicrhau gwelliannau sylweddol yn y DVLA yn Abertawe.

Bu Lynnette, 51 oed, o Gastell-nedd, mor llwyddiannus yn gwneud newidiadau, yn ennyn diddordeb staff ac yn gostwng nifer y cwynion fel ei bod wedi’i phenodi’n arweinydd gwelliant parhaus ynghyd â’i swydd fel rheolwr gwella profiad cwsmeriaid.

A hithau’n dychwelyd i addysg ffurfiol am y tro cyntaf mewn 31 o flynyddoedd, cwblhaodd y Brentisiaeth Uwch trwy Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae’n symud ymlaen yn awr i’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol Lefel 6.

Yn awr, cafodd ei hymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Roedd Lynnette yn rhan o dîm arwain a gafodd y dasg o rymuso ac ysbrydoli’r gweithlu. O fewn dau fis ar ôl dechrau ar ei Phrentisiaeth Uwch, cafodd ddyrchafiad dros dro a mwy o gyfrifoldeb a oedd yn dipyn o her i’w sgiliau rheoli pobl.

Roedd y swydd newydd yn cynnwys newidiadau strategol, cynllunio cyllidol, datblygu pobl recriwtio, ad-drefnu a chynllun datblygu personol i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targedau.

Cafodd ei chydnabod yn “berfformiwr disglair” yn ei hasesiad ar ôl cyflwyno cynlluniau i’r cyfarwyddwr a fyddai’n gwella rheolaeth ariannol y sefydliad. Llwyddodd i sicrhau bod llawer llai o bapur yn cael ei wastraffu a chyflwynodd dechnoleg newydd i wella gofal bugeiliol a chyfathrebu gyda rhai oedd yn gweithio o bell.

Yn ogystal, Lynnette oedd yn arwain gwaith cynllunio a chyflenwi hyfforddiant ‘Diwylliant Cwsmeriaid yn Gyntaf’ a fydd yn cael ei gynnig fesul tipyn i bron 4,000 o staff.

“Rwy wedi ymrwymo’n llwyr i’r Brentisiaeth Uwch ac rwy wedi rhoi’r hyn a ddysgais ar waith yn ôl yn y gweithle gan sicrhau gwelliannau sylweddol sy’n cael eu cydnabod ar y lefel uchaf yn y sefydliad,” meddai.

Dywedodd Stephen Hartnoll, pennaeth Uned Cwynion, Twyll Gweithredol a Gwaith Achosion y DVLA: “Mae Lynnette wedi dangos ei bod yn feddylwraig strategol, yn arweinydd ysbrydoledig ac yn berson sy’n dda iawn am gyflwyno newidiadau. Mae’n ddi-os bod y sgiliau a ddatblygodd trwy’r brentisiaeth wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant.”

Ychwanegodd Ian Jones, Pennaeth Dysgu seiliedig ar Waith yng Ngrŵp Colegau NPTC ei longyfarchiadau i Lynette a dymunodd bob lwc iddi ar gyfer y rownd derfynol ddydd Gwener. Ychwanegodd:

” Mae Grŵp Colegau NPTC wedi datblygu nifer o bartneriaethau prentisiaeth o fewn diwydiant gan gynnwys: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe; Undeb Rygbi Cymru; y Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ogystal â DVLA, a bellach rydym yn cynnig prentisiaethau ac amrywiaeth o feysydd ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phowys.  Mae’r sgiliau sy’n cael eu hennill drwy ddysgu seiliedig ar waith ar lefel uwch bob amser o fudd ac mae’r coleg yn falch o’r gefnogaeth ac arweiniad sydd ar gael gennym ni ar gyfer ei brentisiaid a chyflogwyr, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc i Lynette.”

Wrth longyfarch Lynnette ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Capsiwn llun: Lynnette Davies – arweinydd ysbrydoledig.