Mae Grŵp Colegau NPTC yn dod at ei gilydd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Dathlodd campysau Powys, Grŵp Colegau NPTC Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gynharach y mis hwn, drwy helpu i wella ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

O dan arweiniad Ffederasiwn Byd ar gyfer Iechyd Meddwl, roedd y thema eleni yn seiliedig ar ‘bobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd sy’n newid’, gyda chydweithwyr o Golegau’r Drenewydd a Bannau Brycheiniog yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth ar y ddau safle.

Roedd nifer o sefydliadau’n bresennol ar y diwrnod – PAVO, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS), Bwrdd Iechyd Addysg Powys, Prosiect Camau Bach, Rekindle a Mind Canolbarth Powys ymhlith y rhai a oedd yn helpu i ddarparu gwybodaeth a chymorth sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

Yn ystod y diwrnod, rhoddodd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coleg Y Drenewydd rodd yn y fan a’r lle i Bonthafren gydag arian a godwyd gan y cacennau hyfryd yr oeddynt wedi eu darparu eu hunain.

Mewn mannau eraill, mae Newton Brown, Swyddog Menter, yn rhedeg prosiect gyda myfyrwyr i helpu i godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl.

Roedd y diwrnod gwybodaeth hefyd yn rhoi cyfle i diwtoriaid pwnc rwydweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl, ac mae trefniadau wedi’u gwneud er mwyn i sgyrsiau gael eu cynnal gan y sefydliadau i grwpiau penodol o fyfyrwyr dros yr wythnosau nesaf.

Hefyd roedd cwnselwyr Coleg yn gallu trafod eu gwaith a’u llwybrau atgyfeirio at asiantaethau allanol.

Dywedodd Hazel Osborne, aelod o Wasanaeth Cwnsela’r Coleg yn y Drenewydd: “Roedd yn wych gweld llawer o wasanaethau iechyd meddwl lleol yn y digwyddiad hwn.

“Roedd ein myfyrwyr wedi mwynhau’r gacen yn fawr iawn ac wedi ymgysylltu â’r bwrdd naws. Teimlai fel cyfle pwysig i barhau i ddatblygu normaleiddio defnyddio’r mathau hyn o wasanaethau ac yn gyfle i ni  ddyfnhau ymwybyddiaeth myfyrwyr am y gwasanaethau cwnsela a chymorth sydd ar gael ar y safle ymhellach.”

Ychwanegodd Rosemary Denham, Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr ynn Ngrŵp Colegau NPTC: “Roedd y diwrnod yn gadarnhaol iawn ar gyfer ein myfyrwyr. Roedd PAVO wedi gwahodd y sefydliadau proffesiynol, a phenderfynodd ein myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gymryd rhan yn ogystal. Roedd cael y bobl ifanc hyn i gymryd rhan yn golygu ei bod yn haws i fyfyrwyr eraill i ymgysylltu â’r digwyddiad a siarad â’r sefydliadau allanol heb deimlo’n chwithig. Roedd yn gymysgedd da iawn.”