Cydnabod Ymroddiad Llywodraethwr y Coleg i Nyrsio

Bu’n flwyddyn fawr i’r Aelod o Fwrdd Corfforaeth Grŵp Colegau NPTC, yr Athro Donna Mead. Yn ogystal â chael ei phenodi fel Cadeirydd newydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, mae ei hymroddiad i’w phroffesiwn wedi’i wobrwyo, wrth iddi gael ei henwi yn un o’r 70 nyrs mwyaf dylanwadol yn ystod 70 mlynedd diwethaf y GIG.

Wrth i’r GIG ddathlu ei ben-blwydd yn 70 yr haf hwn, cyhoeddodd The Nursing Standard rifyn arbennig fel rhan o’i ‘70 NHS years: a celebration of 70 influential nurses and midwives from 1948 to 2018’, sy’n cydnabod gwaith nyrsys a bydwragedd ar draws y wlad sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant. Mae’r Athro Mead, sydd hefyd yn nyrs gofrestredig, gyda mwy na 40 mlynedd o wasanaeth yn y GIG ac addysg yn un o’r 70 a enwyd yn y cyhoeddiad.

Dan arweiniad yr Athro Jane Cummings, Prif Swyddog Nyrsio Lloegr, ar ran Prif Swyddogion Nyrsio y DU mewn partneriaeth â’r RCNi a’r Nursing Standard, mae’r rhestr yn cydnabod ac yn dathlu llawer o nyrsys a bydwragedd ysbrydoledig yn ei hanes.

Dyfarnwyd OBE i’r Athro Mead yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd 2009, ac mae ei chymwysterau academaidd yn siarad drostynt eu hunain.

Dechreuodd ei gyrfa yn ysgol nyrsio Merthyr yn y 1980au ac mae ganddi gyflawniadau niferus ers hynny. Maent yn cynnwys ysgrifennu a darparu’r rhaglen gradd nyrsio israddedig gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, cael cyllid i ddatblygu Gradd Meistr mewn Nyrsio Trychinebau, ennill PhD a dod yn Athro mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Morgannwg; derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Abertawe, ac ysgrifennu strategaeth Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ar Ddyfodol Addysg i Nyrsys, a gyhoeddwyd yn 2016.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn Nurse Researcher Journal eglurodd unwaith mai  problemau cleifion oedd yn ymddangos yn amhosibl eu datrys a daniodd ei diddordeb mewn ymchwil nyrsio.  ‘Rwy’n mynd at bob cwestiwn ymchwil gyda meddwl agored ynglŷn â sut i fynd ati i ymchwilio iddo,’ meddai.

Mae’r Athro Mead hefyd wedi bod yn aelod annibynnol mewn sawl corff y GIG yn ogystal â bod yn llywodraethwr ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yng Ngrŵp Colegau NPTC, ac mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr St John Cymru.