Medal arian yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig

Enillodd dau fyfyriwr gwyddoniaeth Grŵp Colegau NPTC fedal arian yn y Gystadleuaeth Gwyddor Fforensig Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Cystadlodd y myfyrwyr mewn gwyddoniaeth gymhwysol (Biofeddygol a Fforensig) yn erbyn myfyrwyr o golegau ac ysgolion chweched dosbarth ar draws Cymru i ennill y fedal arian, ar ôl bod o fewn trwch blewyn i ennill y fedal aur.

Casglodd Natasha McBrien a Lois Jones, sydd yn rhan o Academi Chweched Dosbarth Coleg Castell-nedd dystiolaeth o safle trosedd cymhleth ffug gan fynd ati i’w hastudio a gwnaeth y myfyrwyr argraff fawr ar y beirniaid gyda’u sgiliau dadansoddol.

Mae’r gystadleuaeth, a gynhaliwyd gan Goleg Gwent, yn rhan o gystadlaethau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyfres o gystadlaethau hunangynhwysol a gynlluniwyd i nodi a dathlu sgiliau yng Nghymru.

Gwnaeth yr ymrwymiad a’r sgiliau a ddangoswyd gan y myfyrwyr argraff ar y darlithydd gwyddor fforensig Emma Morgan. Dywedodd hi: “Roedd y ddau fyfyriwr yn hynod o lwyddiannus i ennill lle mor uchel yn y gystadleuaeth hon. Mae medal arian yn dyst i’w sgiliau a’u hymrwymiad i’w pwnc, ac roedden nhw o fewn trwch blewyn i ennill y fedal aur. Mae’r cystadlaethau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau wedi bod ar flaen y gad o ran cystadlaethau WorldSkills.”

Dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Academi’r Chweched Dosbarth: “Mae’r cystadlaethau sgiliau hyn yn ffordd ffantastig i arddangos rhagoriaeth dysgu ac addysgu, ac y mae’r ffaith bod ein myfyrwyr wedi bod mor llwyddiannus yn tynnu sylw at y gwaith gwych sy’n digwydd yn yr Academi Chweched Dosbarth ac ar draws Grŵp Colegau NPTC.”