Gweddnewidiad Gwych i Hen Ffefryn

Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg y Drenewydd gyfle prin i ddysgu mwy am dechnolegau wedi’u pweru gan fatris y dyfodol, pan gawsant weld gwaith trosi trydanol ar glasur o Fiat 500 diolch i Electric Classic Cars o Ganolbarth Cymru.

Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad car clasurol gyda gogwydd fodern. Mae’r modur wedi’i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y blaen) ac mae’n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cudd o dan y bathodyn Fiat.

Roedd gan y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y gosod, gan sylweddoli manteision cyflymder a phŵer trydan yn gyflym. Fel un sy’n frwd dros geir clasurol, roedd gan Tom Watkins, technegydd yn y coleg, ddiddordeb penodol.

Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd mewn Cerbydau Modur fod  hyfforddiant mewn hybridiau a thrydan yn ‘faes yr oedd y coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae’r technoleg cerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae’n wych gweld enghreifftiau o’r clasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, ac i wybod bod hwn ac eraill ar gael ar garreg ein drws.’

Mae Electric Classic Cars wedi’i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac maent wedi trosi nifer o geir clasurol yn cynnwys Porsche 911, Range Rover 1972 a BMW E9. Mae’r busnes sy’n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu yn gyflym a dywedodd Richard ‘pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi ceir newydd a throsiadau. Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd sydd i ddod am yr wybodaeth hon ac mae’n syndod faint o gamsynio sy’n digwydd eisoes am geir sydd wedi’u pweru gan fatris.’

Gallwch ddarganfod mwy am geir clasurol trydan yn www.electricclassiccars.co.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cerbydau modur, mae gennym gyfleoedd ar gyfer cyrsiau amser llawn, gwella sgiliau a phrentisiaethau. Ffoniwch Coleg y Drenewydd ar 01686 614200 neu cliciwch yma.

Y cwrs byr nesaf fydd yn cael ei gynnal gan yr Adran Cerbydau Modur yng Ngholeg y Drenewydd fydd hyfforddiant ac asesiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus MOT blynyddol – dyma gwrs safonol y diwydiant sy’n cael ei gynnal ar 6ed a 7fed Mawrth 2019. Am fanylion pellach ffoniwch 01686 614200.