Rhoi blas ar yr Ynysoedd Cayman

Ar ôl cwympo mewn cariad â bwyd yn 14 oed, dechreuodd cyn-fyfyriwr Joshua John ar ei daith i wireddu ei freuddwyd o fod yn un o’r cogyddion gorau yn y byd. Yn 24 oed erbyn hyn, mae ef wedi codi’n uchel ar ôl degawd o foddio’i frwdfrydedd am fwyd.

Ymrestrodd Josh ar Ddiploma VRQ lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Bwyd yng Ngholeg Castell-nedd, rhan o Grŵp Colegau NPTC. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn aeth ymlaen i astudio Diploma lefel 3 VRQ mewn Coginio Proffesiynol Uwch. Mae’r cyrsiau hyn wedi gosod y sylfeini ac wedi rhoi’r sgiliau sylfaenol iddo a oedd eu hangen arno i symud ymlaen yn y diwydiant.

Dywedodd darlithydd Helen Lavercombe am Josh, “Dwi bob amser wedi anelu at arwain a chefnogi ein myfyrwyr i gyflawni i’r eithaf. Yn ystod ei gyfnod yn  astudio Diploma lefel 3 VRQ mewn Coginio Proffesiynol Uwch, roedd Josh mor frwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu unrhyw beth a phopeth. Roedd e wedi gosod ei nod mewn bywyd ac roedd yn benderfynol o’i gyrraedd. Dwi mor falch ac wrth fy modd ein bod wedi cael y cyfle i roi’r hyfforddiant a’r gefnogaeth a oedd eu hangen arno i’w helpu ar ei daith gyrfa. Mae Josh wedi cyflawni sut cymaint ers gadael Coleg Castell-nedd ac rydyn ni am ddymuno llwyddiant parhaus iddo fe ar gyfer y dyfodol. ”

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn 2013, mae gyrfa Josh wedi bod fel corwynt. Dechreuodd ei daith gyda’i swydd gyntaf yn Munch yn y Mwbwls. Yn y bwyty Ewropeaidd fodern hwn llwyddodd Josh i gael ei gefn ato. Roedd yn arfer gweithio saith deg awr yr wythnos ar gyfartaledd ac nad  oedd ganddo’r bywyd cymdeithasol arferol i rywun yn 18 oed,  ond roedd Josh am wthio ei hun ymhellach. Symudodd i Lundain gan wneud cais i weithio yn y bwyty ag un seren Michelin, Pollen Street Social, a oedd yn perthyn i’r cogydd o fri Jason Atherton. O dan ei hyfforddiant, gweithiodd Josh wythnosau ofnadwy o galed am naw deg awr yr wythnos gan fynd ati i gyrraedd y safon anhygoel o goginio sydd ei hangen mewn bwyty seren Michelin. Mae’n disgrifio’r profiad hwn am bedwar mis fel “bedydd tân” a dysgodd sut cymaint drwy weithio gydag un o’r cogyddion gorau yn y diwydiant.

Dechreuwyd y cam nesaf gan gorfforaeth busnes yn Abertawe, a gysylltodd ag ef i ofyn a oedd ganddo ddiddordeb mewn cyfle i weithio yn y bwyty clasurol Prydeinig, St John, yn Llundain. Enwog am eu syrth a bwyta ‘o’r trwyn i’r gynffon’ mae’r bwyty yn rhif 84 yn y rhestr ‘50 Bwyty Gorau’r Byd’. Treuliodd Josh dwy flynedd a hanner yn gweithio yno yn cyflawni pedwar deg wyth awr yr wythnos a oedd yn bleser mewn cymhariaeth. Symudodd yn ei flaen o rôl cychwynnol fel Cogydd Crwst i mewn i’r gegin boeth a’r holl ffordd i fyny i Sous Chef Iau. Cafodd gynnig wedyn i gael y swydd Sous Chef, ond penderfynodd wrthod y cynnig hwn i symud ymlaen at bethau mwy a gwell.

Llwyddodd Josh wedyn i ennill y cyfle i weithio am flwyddyn mewn bwyty anhygoel arall, Agua Cayman, Ynysoedd Cayman. Ym mis Ionawr, dechreuodd Josh ei daith dros Ddyfroedd yr Iwerydd i gychwyn ar y profiad unigryw hwn, unwaith mewn oes.

Llongyfarchiadau Josh! Byddwn yn dilyn y newyddion am yrfa wych Josh, felly cadwch eich llygaid yn agored am yr wybodaeth ddiweddaraf fan hyn!

Gallwch ddilyn Josh ar ei fenter newydd yma: www.instagram.com/chefjoshy22

 

CAPSIWN AR GYFER Y LLUN: Josh yn sôn am ei daith o’r coleg gydag ein myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo.