Cofio Profiadau Erasmus

Croesawodd cyn-fyfyrwyr trin gwallt a therapïau cymhwysol Grŵp Colegau NPTC Stephen Kinnock AS i Goleg Afan yn ddiweddar, i sôn am eu profiadau Erasmus+ (rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon) yn Girona, Sbaen.

Roedd Mr Kinnock yn awyddus i glywed am brofiadau’r myfyrwyr o lygad y ffynnon er mwyn dangos i Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw’r rhaglen ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol dysgwyr galwedigaethol.

Mae Erasmus+ yn galluogi pobl ifanc i astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi mewn gwledydd eraill. Mae’n rhoi hwb i sgiliau a chyflogadwyedd, yn ogystal â moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer addysgwyr gan gynnwys ymweliadau astudio, cysgodi swyddi, hyfforddiant a datblygu adnoddau arloesol.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae 600,000 o bobl o’r DU wedi cymryd rhan yn Erasmus+. Rhwng 2014 a 2020, bydd Erasmus+ wedi bod yn werth £793 miliwn i’r DU.

Ers 2015, mae myfyrwyr trin gwallt a therapïau cymhwysol Grŵp Colegau NPTC wedi teithio i Sbaen trwy Erasmus+ i weithio mewn salonau a sbas ar draws dinas Girona yng Nghatalonia.

Clywodd Mr Kinnock gan y cyn-fyfyrwyr Isabelle, Cherelle, Jane a Bethan, y mae pob un ohonynt yn awr yn rhedeg eu busnesau eu hunain neu’n gweithio o fewn y diwydiant.

Eglurodd Isabelle sut y gwnaeth ei hamser yn Hotel Balneari Vichy Catalan ei helpu hi. Dywedodd: “Llwyddais i ddatblygu gwell dealltwriaeth o fywyd gwaith a sut i ddelio â chwsmeriaid. Rhoddodd yr hyder a’r annibyniaeth yr oedd eu hangen arnaf i mi sefydlu fy musnes fy hun ac yr wyf bellach yn rhedeg cwmni therapi harddwch llwyddiannus, Isabelle’s Beauty Room, wedi’i leoli yn Centerprise, y Ganolfan Menter yng Ngholeg Castell-nedd”.

Gofynnodd Mr Kinnock i’r grŵp pa heriau oedd y myfyrwyr wedi’u hwynebu yn ystod eu profiad gwaith. Roedd pawb yn cytuno mai un o’r heriau mwyaf oedd y rhwystr ieithyddol, gan yr oedd y rhan fwyaf o’r staff a’r cleientiaid yn siarad Catalaneg. Dysgon nhw ddarnau o’r iaith drwy apiau iaith a’u cydweithwyr, gan eu galluogi i gyfathrebu â’u cwsmeriaid. Roedd cymudo i’r gwaith yn rhywbeth a oedd yn newydd i lawer o’r myfyrwyr, gan yr oedd rhaid iddynt lywio eu ffordd ar draws y ddinas bob bore ac roedd hyn wedi’u helpu i ddatblygu eu hannibyniaeth a magu hyder. Roeddent yn awyddus iawn i nodi bod y gefnogaeth gan y darlithwyr a deithiodd gyda nhw heb ei hail, roedden nhw bob amser ar gael i roi cymorth ac arweiniad ac wedi eu hannog drwy gydol y broses.

Eglurodd y grŵp fod y spas lle roeddent yn gweithio yn cynnig triniaethau gwahanol o’u cymharu â’r rhai yn y DU. Roedd hyn wedi agor eu llygaid i nifer o wahanol bosibiliadau ac roeddent yn gallu ymarfer technegau nad oeddent erioed wedi’u profi o’r blaen. Mantais arall o fod ar leoliad yn Girona oedd y cyfle i ymgymryd â rhai ymweliadau diwylliannol anhygoel yn Barcelona a’r cyffiniau a rhannu profiadau a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth Ysgol: Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol: “Mae’r staff Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol wrth eu bodd â’r cyflwyniadau a roddwyd gan ein myfyrwyr. Roedd yn neges glir i bawb fod eu profiadau yn Sbaen o ganlyniad i ariannu gan Erasmus+ wedi eu galluogi i fynd ar drywydd dyheadau busnes ac i ymgymryd â’r llwybr addysg uwch gyda chymhwyster TBAR”.

Ar ôl dychwelyd o’u profiad Erasmus+, bu nifer o’r myfyrwyr yn cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol, gyda Cherelle yn ennill medal efydd. Ar ôl gorffen eu hastudiaethau a dechrau eu gyrfaoedd yn y diwydiant trin gwallt a therapïau cymhwysol, mae pob un o’r pedair cyn-fyfyriwr wedi penderfynu dychwelyd i Goleg Afan i ymgymryd â chymhwyster addysgu TBAR. Maent yn cytuno fod Erasmus+ wedi helpu i roi’r hyder angenrheidiol iddynt i gymryd y cam nesaf. Felly pwy a ŵyr, ymhen ychydig flynyddoedd, efallai y byddant yn mynd â’u myfyrwyr eu hunain ar antur Erasmus+!

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y rhaglen Erasmus+