Mis Hanes LGBT – Chwefror 2019

Dathlwyd Mis Hanes LGBT gan y Coleg y mis Chwefror hwn gyda chyfres o sesiynau codi ymwybyddiaeth i fyfyrwyr sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, holi, neu heb benderfynu.

Wedi’u trefnu mewn ymgynghoriad ag Undeb y Myfyrwyr, cynhaliwyd y sesiynau codi ymwybyddiaeth galw heibio hyn yng Ngholegau Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd a’r Drenewydd drwy gydol mis Chwefror. Cwrddodd y cyfranogwyr â myfyrwyr LGBT + eraill, ac roedd cyfle iddynt drafod y materion sy’n bwysig iddynt, ac awgrymodd y myfyrwyr gamau gweithredu y gall y coleg eu cyflawni i gefnogi myfyrwyr LGBT.

Dathlwyd Mis Hanes LGBT gan bedwar llyfrgell y Coleg gydag arddangosfeydd gwybodaeth a oedd i’w gweld drwy gydol mis Chwefror i hysbysebu’r mis a chodi ymwybyddiaeth o’r llyfrau LGBT sydd ar gael yng nghasgliadau’r llyfrgelloedd.

Hedfanodd y Coleg hefyd y faner balchder enfys ym mhob campws, i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb LGBT.

Mae Mis Hanes LGBT yn anelu at wneud pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn fwy gweledol, codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae pobl LGBT yn dal i’w hwynebu ynghyd â galw ar bawb i gyfrannu at gymdeithas LGBT gynhwysol.

Fe’i dethlir bob mis Chwefror, i goffáu diddymu Adran 28 yn 2003 sef deddfwriaeth a gyflwynwyd ym 1988 a oedd yn gwahardd ysgolion a cholegau rhag portreadu cyfunrywioldeb yn gadarnhaol.

Os hoffai unrhyw fyfyrwyr neu aelodau o staff gael cyngor ac arweiniad mewn perthynas â materion LGBT, cysylltwch â diversity@nptcgroup.ac.uk.