Gwobrau Staff 2019

Mae staff ledled Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn y Gwobrau Staff blynyddol; gan dderbyn tystysgrifau am eu hymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus drwy’r flwyddyn academaidd 2018-2019.

Cafodd cyfanswm o 139 o staff eu cydnabod am eu cyflawniadau ac roedd y cymwysterau a enillwyd yn cynnwys:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 a 3

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3 a 4

ILM Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Prosiect Cymraeg yn y Gweithle AB Colegau Cymru – Lefel Mynediad

Cymwysterau TBAR, Aseswyr a Dilyswyr.

Amrywiaeth o raddau BSc

Mae seremonïau gwobrwyo wedi’u cynnal yng Ngholeg Castell-nedd a Choleg Y Drenewydd yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Mark Dacey yn bresennol, a roddodd araith i ddiolch i’r staff a chyflwyno eu tystysgrifau iddynt.

Ar 6 Mehefin, derbyniodd deg aelod o staff meithrinfa ddydd Lilliput yng Ngholeg Castell-nedd dystysgrifau am gwblhau NVQ mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 a Lefel 3. Gwnaethant fwynhau derbyniad gyda’r hwyr gydag aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli, Adnoddau Dynol a Datblygu Staff.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo Coleg y Drenewydd yn Theatr Hafren ar 27ain Mehefin. Roedd 13 o aelodau staff o Golegau Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog yn bresennol ynghyd ag aelod o’r Uwch Dîm Rheoli, Adnoddau Dynol a Rheolwr y Coleg Steve Cass.

Cynhaliwyd y seremoni olaf yng Ngholeg Castell-nedd ar 10fed Gorffennaf. Dilynwyd derbyniad bwffe ym Mloc A/B gan y cyflwyniad yn y Brif Neuadd.

Roedd 50 o aelodau o staff yn bresennol, ynghyd ag aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli, Adnoddau Dynol, Datblygu Staff a rhai gwesteion arbennig a oedd yn cynrychioli’r darparwyr hyfforddiant.

Llongyfarchiadau i bob aelod o staff a dderbyniodd dystysgrifau.