Gwobrau Dysgu Oedolion a’r Gymuned Powys

Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o gynnal y Gwobrau Dysgu Oedolion a’r gymuned ar 26ain Mehefin, gyda seremoni arbennig a gynhaliwyd ym Mwyty Themâu, Coleg y Drenewydd yn cynnwys darparwyr dysgu cymunedol partner. Cynhaliwyd y seremoni i gydnabod llwyddiannau gwych ein dysgwyr sy’n oedolion yng nghymuned Powys. Roedd Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp NPTC Judith Williams a Rheolwr Rhaglenni Strategol Cyngor Sir Powys Jayne Bevan ymhlith y rhai a gyflwynodd wobrau. Cafodd enillwyr y gwobrau eu dewis o blith amrywiaeth eang o ymgeiswyr teilwng, gyda llawer ohonynt wedi dangos gwir ymroddiad, wedi bod yn ysbrydoledig i eraill a rhai wedi gwneud hynny gan oresgyn heriau sylweddol hefyd.

Enillwyr

Dysgu gweithredol ar gyfer Iechyd a Llesiant – Kimberley Lockwood. Clod uchel – Audrey Evans.

I mewn i Waith – Angela Neave

Gwobr Dysgu Teuluol – Mr Atanas Krastev a Mrs Iliyana Krasteva

Gwobr Addysg Bellach – Emma Price. Clod uchel – Olwen Prothero.

Dysgwr Cymunedol – Durga Bahadur Thapa. Clod uchel – Brian Christopher

Addysg Uwch – Michelle Dorise-Turrall. Clod uchel – Kirsty Allwood 

Dysgwr ESOL – Sher Bahadur Ijam

Dysgu ar gyfer Newid Bywyd a Dilyniant – Junko Cannon. Clod uchel – Megan Thompson

Dysgwr Cymraeg – Julie Pearce