Graddio 2019

Mae hoelion wyth y gymuned wedi’u cydnabod yn Seremoni Raddio flynyddol Grŵp Colegau NPTC, a dyfarnwyd iddynt Gymrodoriaethau yn y seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Daeth myfyrwyr o ar draws Grŵp Colegau NPTC  – un o golegau mwyaf Cymru sy’n gwasanaethu cymunedau Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr – at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant yng nghwmni eu ffrindiau a’u teuluoedd.

Yn ogystal â chynnig cyrsiau traddodiadol Safon Uwch a  galwedigaethol ôl-16, mae’r Coleg yn ddarparwr allweddol o ran addysg oedolion ac mae’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a Graddau, fel aelod llawn achrededig o Brifysgol De Cymru, y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Abertawe, ac mewn partneriaeth â hwy.

Dyfarnwyd Cymrodoriaethau Anrhydeddus pwysig eleni i’r canlynol: yr Aelod Cynulliad Lleol, Gwenda Thomas, Pat Vine, Llywodraethwr Grŵp Colegau NPTC a’r Ustus Heddwch, a barnwr yr Uchel Lys, Syr Clive Lewis. Dyfarnwyd yr anrhydedd bwysig i bob un ohonynt am Wasanaeth i’r Gymuned.

Mae cyn Gymrodorion Anrhydeddus yn cynnwys Dr Geraint F Lewis; Ben Davies; Rob Davies; Nichola James; Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hain; Michael Sheen; Dan Lydiate; Olive Newton a Margaret Thorne, yn ogystal â Gaynor Richards MBE y dyfarnwyd iddi fedal y Canghellor yn 2012.

Mae Syr Clive Buckland Lewis o Ystalyfera yn farnwr yn yr  Uchel Lys Cyfiawnder, un o Uwch Lysoedd Cymru a Lloegr. Addysgwyd ef yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Coleg Churchill, Caergrawnt, a Phrifysgol Dalhousie. Roedd Lewis yn ddarlithydd ym Mhrifysgol East Anglia cyn cael ei alw i’r bar yn Middle Temple yn 1987. Fe’i penodwyd yn Gofiadur yn 2003 ac fe’i cymeradwywyd i eistedd fel Dirprwy Farnwr yn yr Uchel Lys. Yn 2003, daeth yn Gwnsler y Frenhines ac ym mis Mehefin 2013, cafodd ei benodi’n Farnwr yr Uchel Lys gan dderbyn yr urdd marchog arferol yn Anrhydeddau Arbennig 2014 a’i neilltuo i Adran Mainc y Frenhines.

Mae’r cyn AC Gwenda Thomas yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel gwleidydd Llafur Cymru, ar ôl cael ei hethol am y tro cyntaf i’r Cynulliad ym mis Mai 1999. Yn ystod ei gyrfa fel Aelod Cynulliad, gwasanaethodd fel Cadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad, cadeiriodd adolygiad ar Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru a bu’n Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei diddordebau’n cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, materion yn ymwneud â phlant, lywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.

Mae’r Ynad Heddwch Patricia Vine wedi bod yn llywodraethwr Gweithgar yn y Coleg ers 2013 ac mae’n uchel ei pharch am sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed bob amser.  Mae Pat yn ymgorffori hanfod dinasyddiaeth dda. Gwasanaethodd am 12 mlynedd fel arweinydd Sgowtiaid Cybiaid lle’r oedd yn ymfalchïo’n fawr mewn sicrhau y gallai pob sgowt nofio. Fe’i hetholwyd i swydd gyhoeddus gan ddod yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned yng Nghilybebyll a bu’n gwasanaethu am 15 mlynedd fel Ustus Heddwch, lle’r oedd yn eistedd ar Lys Apêl y Goron.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd yr holl gymrodorion eu bod wrth eu bodd yn derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus, ond gan bwysleisio mai’r anrhydedd go iawn oedd cael rhannu’r llwyfan gyda gwir arwyr y dydd: y myfyrwyr oedd wedi gweithio mor galed er mwyn graddio.

Wrth raddio gyda balchder mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 5, dywedodd Uwch Swyddog Farchnata’r Coleg, Gemma Smith, “Fel rhiant sengl, yn gwneud swydd amser llawn ochr yn ochr â’m hastudiaethau, rwy’n teimlo mor falch o fod wedi graddio heddiw, ar ôl dwy flynedd o waith caled ac aberth.  Mae’n profi bod dysgu yn rhywbeth gydol oes ac yn agored i unrhyw un. Alla i ddim aros i ddathlu gyda fy nheulu sydd yma gyda mi heddiw”.

I ddarganfod mwy am ‘Raddau ar Garreg eich Drws’ y Coleg, ewch i: nptcgroup.ac.uk/cy/course-categories/addysg-uwch