Llwyddiant dwbl i fyfyrwyr

Roedd pawb yn gwenu wrth i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, Alisha Page, Ffion Moore a Priya Magar ennill gradd llwyddo dwbl ar gyfer eu cwrs Lefel 2.

Bu’r myfyrwyr yn gweithio’n galed drwy gydol y cwrs gan gwblhau arholiadau, aseiniadau ac astudiaethau achos annibynnol. Roedd cyfle gan y myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn profiad gwaith gydag Alisha a Ffion yn gweithio mewn cartrefi gofal lleol, a Priya mewn canolfan gofal dydd i’r henoed.

Ar ôl ennill y cymhwyster Lefel 2 hwn, roedd modd i’r myfyrwyr ymrestru am gwrs Lefel 3 mewn Gofal Plant. Ychwanegodd Priya: “O beidio â gwneud yn dda iawn yn fy arholiadau TGAU yn yr ysgol, roedd y coleg yn gallu rhoi ail gyfle i mi gyflawni fy nod.”  Mae bellach yn bwriadu cwblhau ei chymhwyster Lefel 3 eleni a fydd yn ei galluogi i fynd i’r brifysgol i ddilyn ei breuddwyd o fod yn nyrs bediatrig.

Mae’r cwrs yn caniatáu i’r disgyblion feithrin eu hyder a dywedodd Alisha: “Rydyn ni’n gallu dysgu sgiliau newydd a’u defnyddio yn ein lleoliadau gwaith.”  Mae’r tri myfyriwr i gyd bellach yn gweithio’n galed i gyflawni’r lefel nesaf a fydd naill ai’n eu gweld yn mynd i mewn i’r byd gwaith neu ddod o hyd i le yn y brifysgol.

Ychwanegodd Ffion: “Diolch yn fawr iawn i arweinydd y cwrs, Anna Shepherd, a roddodd yr hwb yr oedd ei angen arnaf i ennill fy nghymhwyster.”

Am ragor o wybodaeth am y cwrs cysylltwch ag arweinydd y cwrs Anna Shepherd: anna.shepherd@nptcgroup.ac.uk