Fawlty Towers yw’r Digwyddiad Mawr cyntaf i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf

Nid oedd dim byd ‘diffygiol’ am y gwasanaeth yn Theatr Hafren yr wythnos ddiwethaf pan oedd myfyrwyr arlwyo blwyddyn gyntaf o Fwyty Themâu, Coleg y Drenewydd yn gorfod cymryd cam mawr ymlaen yn eu digwyddiad mawr cyntaf sef ‘Sioe a Phrofiad Bwyta Fawlty Towers’.

Roedd y sioe deyrnged glodwiw yn seiliedig ar y comedi sefyllfa Fawlty Towers, sioe annwyl i’r BBC, yn cynnwys cymeriadau a oedd yn rhyngweithio â’r gynulleidfa wrth iddynt fwyta pryd o fwyd gyda thri chwrs blasus wedi’u paratoi a’u gweini gan fyfyrwyr arlwyo Coleg y Drenewydd.

Cafodd y digwyddiad ei alw’n llwyddiant mawr gyda’r gynulleidfa yn canmol y bwyd ardderchog, safon y gweini ynghyd ag adloniant doniol iawn gan Basil, Sybil a Manuel.