Mae Aberhonddu yn croesawu Tlws y Chwe Gwlad

Nid oedd yn ddydd Llun arferol i Joseph Palmer sef myfyriwr rhan-amser Coleg Bannau Brycheiniog, wrth i dlws y chwe gwlad a’r Goron Driphlyg ddod i Aberhonddu.

Mae’r disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn astudio cerbydau modur yn y coleg fel rhan o’i astudiaethau TGAU – cyswllt rhwng yr ysgol a’r coleg sy’n galluogi myfyrwyr i ehangu eu sgiliau mewn cyrsiau galwedigaethol.

Roedd Joseph yn ddigon lwcus i gael ei ddewis fel codwr peli i Gymru, ar ôl helpu yn ystod diwrnod rowndiau terfynol Clwb Rygbi Aberhonddu. Mae Palmer yn mynychu holl gemau cartref Cymru ac eglurodd: “Mae’r awyrgylch yn y stadiwm yn anhygoel, mae gen i’r sedd orau yn y tŷ.

Mae’r myfyriwr bob amser wedi bod yn hoff iawn o ralio ac mae’r cwrs cerbydau modur yn ffordd wych iddo ddysgu mwy am ei hobi gan ei fod yn gallu dysgu sgiliau newydd megis gwasanaethu ceir, newid pibellau brêc a llawer mwy.

O’r cwrs dywedodd Jospeh: “Rwyf wedi ennill dysgu llawer o wybodaeth wrth neud y cwrs hwn, ac mae’n bosibl dod â’r sgiliau yr wyf yn eu dysgu i mewn i fy mywyd bob dydd, dwi’n frwd am y peth.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau amser llawn a rhan-amser cysylltwch â: 01686 614410 neu galwch heibio i’r Coleg i ddysgu mwy.