Myfyrwyr rhyngwladol yn rhagori yn eu cymwysterau TGAU

Roedd pawb yn gwenu ar fyfyrwyr rhyngwladol ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, a enillodd raddau rhagorol yn eu TGAU Saesneg yn ddiweddar.

Enillodd y myfyriwr rhyngwladol Helene Moutier o Ffrainc a myfyriwr Sbaenaidd Isabel Sanchez A *, gyda Antonella Molnar yn ennill B mewn Saesneg TGAU rhyngwladol fel ail iaith.

Roedd Antonella sy’n dod o Hwngari yn wreiddiol am wella ei sgiliau iaith Saesneg ar ôl symud i’r ardal. Bu’r weinyddes yng ngwersyll y fyddin leol yn esbonio: “Roeddwn i eisiau gwella fy Saesneg a magu hyder, oherwydd fy ngwaith roedd hyn yn angenrheidiol.”

Ymunodd Antonella â chwrs ESOL yn y Coleg i ymarfer a gwella ei Saesneg gyda chymorth y darlithydd Jacqui Griffiths. Dywedodd Antonella: “Heb gymorth Jacqui ni fyddai hyn wedi digwydd, dwi mor ddiolchgar.”

Doedd dim llawer o amser gan Antonella i astudio gan ei bod hi hefyd yn fam, ond fe’i helpwyd gan Jacqui i gyflawni ei nod. Aeth ymlaen i ddweud: “Pan ddywedodd Jacqui wrtha i fy mod wedi pasio roeddwn i wrth fy modd, mae’n gwneud i fi eisiau dysgu mwy a mwy, ac ehangu fy nghyfleoedd”

Yn ogystal ag Antonella, defnyddiodd dau fyfyriwr arall o Hwngari’r sgiliau Saesneg a enillwyd drwy fynychu gwersi ESOL, i astudio a chyflawni TGAU mewn Mathemateg. Mae pob un o’r myfyrwyr wedi canmol y coleg a’r tiwtoriaid am roi’r cyfle iddynt wella’u haddysg wrth fyw yn y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Saesneg fel eich ail iaith, cysylltwch â: Jacqui.griffiths@nptcgroup.ac.uk