Cipolwg ar Adeiladwaith

Aeth myfyrwyr gwaith coed o Goleg Bannau Brycheiniog i ymweld â’r NEC yn Birmingham ar gyfer y digwyddiad wythnos Adeiladwaith.

Drwy gydol y dydd roedd myfyrwyr yn gallu mynychu seminarau, nid yn unig ynghylch ochr ffisegol y busnes ond hefyd am faterion iechyd meddwl. Roedd yna stondinau iechyd meddwl lle’r oedd arbenigwyr wrth law i siarad am y straen y mae’r diwydiant yn ei gael ar grefftwyr a’r cynnydd mewn iselder o fewn y busnes.

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro ag Wythnos Adeiladwaith y DU (8-10 Hydref). Mae’r NEC yn cynnal digwyddiad adeiladwaith mwyaf y DU sy’n dwyn ynghyd yr holl randdeiliaid o fewn yr amgylchedd adeiledig ym mhob agwedd ar ddylunio, adeiladu a chynnyrch arloesol. Mae’r digwyddiad yn caniatáu i bobl siarad a rhannu gwybodaeth o fewn y diwydiant, yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd o fewn y busnes nawr ac yn y dyfodol.

Roedd myfyrwyr yn gallu edrych ar ddatblygiadau arloesol y dyfodol fel prosiect Heathrow a deunyddiau adeiladu di-garbon y byddwn yn eu gweld yn y dyfodol agos.

Dywedodd y darlithydd gwaith coed, Graham Strangward, a aeth gyda’r disgyblion i’r digwyddiad: “Mae dyddiau fel hyn mor bwysig i fyfyrwyr. Maen nhw’n gallu rhwydweithio ag eraill yn y busnes a gweld pa mor fawr yw’r diwydiant. Roedd myfyrwyr yn gallu cael cipolwg ehangach ar waith y busnes yn ogystal â ffactorau eraill sy’n dod gyda’r gwaith.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein cwrs gwaith coed, cysylltwch â Choleg Bannau Brycheiniog ar 01686 614400.