Mae’r Dyfodol yn Glir i ‘HD Events’

Mae Centerprise, Canolfan Deori Busnes y Coleg, wedi croesawu cwmni newydd yr hydref hwn. Mae HD Events yn cynnig pecynnau adloniant personol i gleientiaid corfforaethol ac fe’i sefydlwyd gan y ffrindiau Ben Bateman, Huw Jenkins a Dave Cooper ar ôl iddynt nodi bwlch yn y farchnad ar gyfer gwasanaethau adloniant pwrpasol.

Does dim prinder profiad yn y diwydiant adloniant gan y tri, ac mae pob un yn alumni Coleg Castell-nedd. Astudiodd Ben BTEC yn y Celfyddydau Cerddorol a Pherfformio ac ymddangosodd ar ein sgriniau teledu fel rhan o’r côr hynod lwyddiannus ‘Only Boys Aloud’, a orffennodd yn drydydd yn Britain’s Got Talent yn 2012. Mae Dave yn gyn-fyfyriwr HND Celfyddydau Perfformio, tra bod Huw hefyd wedi astudio’r Celfyddydau Perfformio ac wedi cofrestru ar gwrs cyfrifyddu rhan-amser yn ddiweddar, a fydd yn sicr o fudd mawr i’r busnes wrth iddo symud ymlaen. Mae’r tri hefyd wedi profi llwyddiant cerddorol gyda’i gilydd gyda’r band enwog Fonz and the Poet, “band parti, ffync a phop pedwar darn” sy’n llenwi lleoliadau ar draws Cymru yn rheolaidd.

Y profiad hwn o’r diwydiant, ynghyd â delio’n rheolaidd â chleientiaid corfforaethol â gofynion penodol, a arweiniodd y triawd i nodi’r angen am atebion adloniant pwrpasol ac unigryw. Yn hytrach na sefydlu asiantaeth ar wahân ar gyfer un elfen, penderfynasant gynnig mwy o hyblygrwydd a darparu ar gyfer pob agwedd ar reoli digwyddiadau, gan hwyluso popeth o gynllunio llwyfan i ddod o hyd i berfformwyr pwrpasol, gan wneud y digwyddiad yn un mwy arbennig i’r cleient.

Dywedodd y criw: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous wrth ddechrau ar ein menter newydd gyda chefnogaeth Centerprise yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae’n lleoliad perffaith lle gallwn ehangu ein busnes ac mae’r cymorth gan y tîm wedi bod heb ei ail.”

Roedd Cara Mead, Uwch Swyddog: Menter a Chyflogadwyedd wrth ei bodd yn croesawu busnes newydd arall, gan ddweud: “Rydym mor hapus i groesawu HD Events, mae’n wych cael cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn sefydlu busnes yma yn Centerprise ac mae’n dyst i’r gwaith rydym yn ei wneud fel Coleg yn annog entrepreneuriaeth”.

Gyda hwythau bron â chwblhau eu paratoadau, bydd HD Events yn barod i lansio ar ddechrau 2020 felly gwyliwch y gofod hwn!

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Centerprise eich helpu i ddechrau busnes, anfonwch e-bost at cara.mead@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01639 648657.

 

Pic Caption: HD Events yn eu cartref newydd yn Centerprise, (chwith i dde) Huw Jenkins, Ben Bateman a Dave Cooper