Academi Prentisiaethau yn ennill gwobr ‘Cyflogwr y Flwyddyn’

Mae’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Hyfforddiant Pathways (cangen prentisiaethau Grŵp Colegau NPTC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ennill prif wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, ar Hydref 24ain.

Cafodd y dathliad blynyddol o gyflawniad eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Roedd Hyfforddiant Pathways ac Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Macro Gyflogwr y Flwyddyn (5000 plws) gan guro cystadleuaeth gref i ennill y wobr.

Ers creu ei Hacademi Prentisiaethau, a gefnogir gan Academi Sgiliau Cymru, ar ddiwedd 2016, penodwyd 193 o brentisiaid o 12 fframwaith dysgu, sy’n cwmpasu sbectrwm llawn y diwydiant, ac mae 15 o ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn aros am wiriadau cyn-gyflogaeth.

Ar hyn o bryd, mae gan y bartneriaeth brentisiaid sy’n weinyddwyr, gweithwyr cymorth gofal iechyd ar y wardiau ac mewn theatrau, a chynorthwywyr mewn labordai ac mewn meysydd megis Dysgu a Datblygu, Swyddfeydd Archebu ar gyfer Cleifion Allanol, Ystadau a Chyfleusterau a’r Adran Therapïau. Mae’r rhan fwyaf yn ymgymryd â phrentisiaethau mewn busnes a gweinyddu a chymorth gofal iechyd clinigol (megis patholeg) ond mae’r Academi yn gobeithio ehangu’r cymwysterau prentisiaethau er mwyn eu cynnig mewn fferylliaeth, lletygarwch a TGCh yn y dyfodol.

“Mae llwyddiant yr Academi o ganlyniad i’r bartneriaeth gyda Grŵp Colegau NPTC a’u partneriaid cysylltiedig yn Academi Sgiliau Cymru,” meddai Ruth Gates, Rheolwr yr Academi Prentisiaethau.

“Mae darparu prentisiaethau drwy’r Academi yn sefyllfa llawn manteision o ran recriwtio ac o ran gwella sgiliau staff. Mae hefyd yn cefnogi cymunedau sy’n rhoi mwy o hygrededd i’r bartneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a’r darparwr hyfforddiant.”

“Mae’r Academi’n unigryw ar draws Cymru ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran darparu canolfan arloesol sy’n ymateb yn effeithiol i brinder a bylchau sgiliau a nodwyd yn y sefydliad,” meddai Nicola Thornton Scott, Pennaeth Cynorthwyol Grŵp Colegau NPTC ar gyfer Sgiliau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae’r enillwyr i gyd wedi gosod y safon ar gyfer prentisiaethau a hyfforddeiaethau ledled Cymru. Maent yn ffenest siop wych ar gyfer ein rhaglen brentisiaeth […] Addawyd y byddem yn creu 100,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn a diolch i ymdrech arbennig gan gyflogwyr, darparwyr dysgu a gwasanaethau cynghori, rydym ar ein ffordd i gyrraedd y targed hwn, a rhagori arno. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i roi i Gymru y dalent i gael gweithlu o’r radd flaenaf. ”

Os hoffech gael gwybod rhagor am y Prentisiaethau yr ydym yn eu cynnig, ewch i: https://www.nptcgroup.ac.uk/apprenticeships neu ffoniwch: 01639 648064.