Gerddi Gwych

Bu myfyrwyr Lefel 1 a 2 Garddwriaeth Coleg Bannau Brycheiniog yn ymweld â Gerddi Ralph Court yn swydd Henffordd fel rhan o daith addysgol.

Bu’r myfyrwyr yn ymweld â’r tiroedd, sy’n gartref i ddeuddeg o erddi gyda themâu gwahanol. O fewn yr ardd gallwch symud o’r Eidal i Affrica, gyda’r mannau yn dwyn y thema gwahanol wledydd. Roedd yr ardd tair erw yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio a dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eu cwrs gyda modiwl penodol mewn dylunio gerddi.

Dywedodd y darlithydd Simon Penn: “Mae ein cwrs yn rhoi cyfle i ehangu’r ystafell ddosbarth i’r awyr agored. Mae’r myfyrwyr yn gallu gweld amrywiaeth eang o erddi hardd ac maent yn ysbrydoli’r dysgwyr.”

O fewn y cwrs, y gellir ei astudio yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, gallwch ddysgu hanfodion hau hadau, cymryd toriadau o blanhigion a dysgu sut i gynnal ystod eang o blanhigion a gofalu am rywogaethau.

Dywedodd Brittany, myfyriwr fu’n ymweld â’r gerddi: “Fy hoff ran o’r daith oedd gardd thematig Alice in Wonderland yn ogystal â’r llong fôr-ladron.”

Gyda Michael, ei chyd-fyfyriwr yn ychwanegu: “Mae’n bwysig ein bod yn gallu dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, a’n bod yn gallu dysgu am y gofal gwahanol sydd ei angen ar y gerddi.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs garddwriaeth cysylltwch â’r coleg ar: 01686 614400