Grŵp Colegau NPTC yn dangos cefnogaeth i’r lluoedd arfog

Cymerodd Grŵp Colegau NPTC gamau ffurfiol i anrhydeddu aelodau o’r lluoedd arfog yn ddiweddar drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn swyddogol.

 

Llofnododd y Pennaeth a’r Prif Weithredwr, Mark Dacey, y datganiad ffurfiol i ddangos ymrwymiad y Coleg i bob aelod o’r lluoedd arfog.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod y rheini sydd wedi cyflawni dyletswydd filwrol, gan gynnwys milwyr gwrywaidd a benywaidd, cyn-filwyr a’u teuluoedd, gan ddangos gwerth eu cyfraniad.

Mae’r Cyfamod yn gweithio i sicrhau bod pob aelod o’r lluoedd arfog yn cael yr un cymorth a mynediad i wasanaethau gan gynnwys gofal iechyd, gwasanaethau ariannol, cyfleoedd cyflogaeth ac addysg ag unrhyw ddinesydd arall.

Hyd yn hyn mae mwy na 4000 o fusnesau ac elusennau wedi addo eu hymrwymiad drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac mae’r nifer hwnnw’n parhau i dyfu.

Llofnodwyd y Cyfamod yn ffurfiol rhwng Mark Dacey ac Uwch-gapten Peter Harrison, o Gatrawd 157 Abertawe yng Ngholeg Castell-nedd, gan nodi sut y bydd y Coleg yn dangos ei gefnogaeth i’r lluoedd arfog gan gynnwys hyrwyddo’r Coleg fel sefydliad sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog, ceisio cefnogi cyflogaeth cyn-filwyr hen ac ifanc a gweithio gyda’r Bartneriaeth Trawsnewid Gyrfa (CTP) i sefydlu llwybr cyflogaeth wedi’i deilwra.

Dywedodd Mark Dacey: ‘Mae’r cytundeb hwn yn addewid ein bod gyda’n gilydd yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin gyda thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a chymdeithas. Mae’r Coleg eisoes yn cynnig ei Lu Cadetiaid Cyfun ei hun i fyfyrwyr, a bydd yn parhau i gynnig cefnogaeth i’n cadetiaid lleol, naill ai yn y gymuned neu mewn ysgolion lleol.”