Diwrnod Siwmper Nadolig

Efallai bod dydd Gwener 13eg yn anlwcus i rai ond aeth myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC i hwyl yr ŵyl wrth iddynt gymryd rhan yn y Diwrnod Siwmper Nadolig.

Dewisodd y myfyrwyr eu siwmperi gorau a chreu argraff fawr yn eu dillad. Enillydd y siwmper Nadolig orau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog oedd Joe.

Bydd yr holl roddion a godir gan staff a myfyrwyr yn cael eu rhoi i Elusen Achub y Plant.