Tîm Adnoddau Dynol ymroddedig ar y rhestr fer ar gyfer gwobr o’r radd flaenaf

Mae tîm Adnoddau Dynol Grŵp Colegau NPTC yn teimlo’n hynod o falch ar ôl clywed eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr TES o fri.

Mae’r tîm wedi cael ei enwi fel un o’r Timau Gwasanaethau Proffesiynol gorau yn y DU, ar gyfer ei fenter hynod o lwyddiannus ‘Cefnogi Iechyd Meddwl’ (rhan o’r rhaglen Gwell Iechyd yn y Gwaith).

Nod y fenter oedd creu amgylchedd gwaith lle y mae iechyd a llesiant yn ganolog a chael gwared ar y stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.  Mae’r Coleg wedi gweithio i rymuso cyflogeion i drafod iechyd meddwl gan fuddsoddi yn hyfforddiant i reolwyr  i roi’r hyder a’r sgiliau i gyfathrebu â’u timau yn ogystal â chreu tîm o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl (MHFA) ar draws y sefydliad.

Cyflwynwyd rhaglen o weithgareddau megis ioga, tai chi, ymwybyddiaeth ofalgar a sesiynau therapi celf gyda diwrnodau HMS penodedig fel bod yr holl staff (cymorth ac addysgu) yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt.

O ganlyniad, bu cynnydd sylweddol o ran y nifer o weithwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae staff yn credu bod y Coleg yn cymryd eu lles o ddifrif.  Mae’r Coleg yn cynnal y gyfradd lwyddo ragorol o 99.9% sy’n dangos bod ein staff yn rhoi’r gorau i’n myfyrwyr.

Mae’r wobr ar gyfer Tîm Gwasanaethau Proffesiynol y flwyddyn yn cydnabod ymrwymiad timau sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni mewn colegau a darparwyr AB i wella arfer yn y sector a gwella perfformiad ei sefydliad yn gyffredinol.

Mae TES yn fusnes addysg byd-eang a gychwynnodd mewn print dros 100 o flynyddoedd yn ôl fel y Times Educational Supplement. Symud ymlaen i heddiw ac maent wedi tyfu i fod yn bartneriaeth gydag athrawon ac ysgolion ledled y byd i ddod yn un o’r cymunedau digidol proffesiynol mwyaf sy’n cysylltu a gweithio gyda 25,000 o ysgolion mewn mwy na 100 o wledydd, gan gefnogi mwy na 13,000,000 o addysgwyr yn fyd-eang.

Mae Gwobrau TES yn dathlu a gwobrwyo ymroddiad ac arbenigedd y bobl a’r timau sy’n parhau i wneud cyfraniad sylweddol i wella lefelau sgiliau pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu yn y DU.

Bydd Grŵp Colegau NPTC bellach yn ymuno â cholegau a darparwyr hyfforddiant ar draws y DU ar gyfer seremoni wobrwyo gala fawr ei bri yng Ngwesty’r Grosvenor, Park Lane, Llundain ym mis Mawrth lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Roedd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC wrth ei bodd gyda’r cyhoeddiad a dywedodd:

“Mae Grŵp Colegau NPTC yn lle arbennig i weithio a dysgu ynddo diolch i’r llu o staff sy’n mynd y filltir ychwanegol. Fel sefydliad, rydym yn cymryd iechyd meddwl o ddifrif ac rydym yn ymrwymedig i ddileu’r stigma ‘

“Mae’n gwbl briodol bod ein tîm AD ymroddedig wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i staff, gan ddarparu cymaint o fentrau a chyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau, eu cynnydd yn eu gyrfaoedd, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chreu teimlad o gymuned o fewn i’r Coleg.”

Ychwanegodd y Rheolwr AD Melanie Dunbar: “Mae’n teimlo’n wych i ni gael ein cydnabod gan Wobrau TES, mae’n dyst i holl waith caled ac ymroddiad y tîm AD a holl staff y Coleg sydd wedi cofleidio’r mentrau ac wedi gwneud y Coleg yn lle mor gadarnhaol i weithio ac astudio ynddo.”