Y CWTCH

Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – ‘Y  CWTCH’ – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.

Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o’r gymuned gyda mynediad agored i bawb.

Dadorchuddiwyd plac gan Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi’r achlysur. Yn ymuno â hi oedd gwesteion yn cynnwys urddasolion, aelodau o’r gymuned, staff a myfyrwyr. Dywedodd ei bod yn gobeithio ac yn credu y bydd CWTCH yn rhan bwysig iawn o gymuned Aberhonddu trwy ddod â phobl at ei gilydd a helpu i yrru’r economi yn nhref Aberhonddu.

“Mae’r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy’n gweld yr adeilad hwn a’r hyn sy’n digwydd yn ysbrydoledig,” ychwanegodd.

Mae’r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae’n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyflym 1GB, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o’r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a’r cyhoedd.

Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i’r gymuned ddefnyddio’r cyfleusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o’r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o’r adeilad y mae’n ei lesio gan yr awdurdod lleol.

Hefyd ar gael, bydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV. Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i glywed pa gyrsiau y byddai’r gymuned yn hoffi eu gweld yn cael eu cynnig, ac mae bocs awgrymiadau ar gael yn nerbynfa CWTCH.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC fod gan y grŵp enw da iawn am ymgysylltu â’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu a bod nifer o gynlluniau i newid y ffordd y darperir addysg ôl-16 yn Aberhonddu.

“Ein nod yw dod â’r rhan fwyaf o addysg ôl-16 i ganol y dref, gan ganiatáu i’n myfyrwyr ddefnyddio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y siopau yn Aberhonddu, cyfrannu at nifer y cwsmeriaid yn y dref, a helpu pob un o’r busnesau a chyfrannu’n gadarnhaol at y economi.

“Rydym am ymgysylltu â’r cyhoedd am ein cwricwlwm, ein cyrsiau i oedolion, cyrsiau byr, addysg bellach a’n haddysg uwch. Rydym am ehangu’r cyfleoedd i’n myfyrwyr gael mynediad i’r amgueddfa ryfeddol a’r arddangosfeydd newidiol, gan amlygu ein myfyrwyr i waith Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa. Ein cynlluniau yn Aberhonddu yw datblygu cydleoli gyda’r Awdurdod Lleol, er mwyn dod â gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i sicrhau gwell gwerth am arian, ond nid ar draul y gwasanaethau hynny. Rydym yn llwyr gefnogi ethos Llywodraeth Cymru o fod yn ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru’, ac mae gennym bwrpas cyffredin ac ysgogwyr ar y cyd i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Galwch heibio am sgwrs ac i gael gwybod rhagor! Neu ewch i: nptcgroup.ac.uk/cy/lleoliadau-a-chyfleusterau/the-cwtch