Ar y Brig: Taith Griced Alex

Bu’n flwyddyn arbennig i un myfyriwr yn Academi Chwaraeon Llandarcy gan ei bod bellach, yn dilyn tymor cyntaf llwyddiannus o griced proffesiynol, wedi’i dewis ar gyfer Academi Menywod Lloegr (EWA) a’r Sgwad Hyfforddi pwysig; llwybr datblygu i anrhydeddau rhyngwladol hŷn.

Ar hyn o bryd mae Alex Griffiths o Bort Talbot yn astudio Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd) yn  Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC). Mae hyn yn caniatáu iddi gynnwys ei rhaglen hyfforddi criced brysur yn ei hastudiaethau dyddiol. Esboniodd Alex:

“Rwy’n cael llawer o gefnogaeth gan y darlithwyr. Maent yn rhoi cyfleoedd hyfforddi i mi, sy’n fy helpu i ddatblygu fy nghriced, ac rwy’n elwa bob dydd o’r cyfleusterau gwych yma yn Academi Chwaraeon Llandarcy.

Mae’n rhaid i Alex reoli ei hamser yn ofalus, gan ymgymryd â’i hastudiaethau yn y coleg ar y cyd â theithio yn ôl ac ymlaen i Academi Prifysgol Loughborough ar gyfer sesiynau hyfforddi. Ym mis Medi, mae’n bwriadu parhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn ogystal â datblygu ei gyrfa criced.

Mae Academi Menywod Lloegr a’r Sgwad Hyfforddi yn darparu rhaglen unigol ar gyfer chwaraewyr ac yn cynnig cymorth penodol i’w hanghenion er mwyn manteisio i’r eithaf ar y posibilrwydd o drosglwyddo i’r tîm hŷn yn y dyfodol.

Dywedodd prif hyfforddwr Academi Menywod Lloegr, John Stanworth: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r grŵp hwn. Mae’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â chwaraewyr talentog eraill yn gyson yn rhan bwysig o’u datblygiad. Mae’n grŵp cyffrous o chwaraewyr ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu drwy’r profiadau gwahanol y byddant yn eu cael yma a thramor.”

Mae Alex eisoes wedi cael blas ar chwaraeon ar y lefel uchaf, ar ôl llofnodi ei chontract proffesiynol cyntaf gyda Western Storm (tîm criced menywod Twenty20 yn Ne Orllewin Lloegr) pan oedd yn 17 oed. Aeth ymlaen i helpu’r tîm i ennill Super League Kia yn 2019, rhywbeth mae hi’n dal i’w ddisgrifio fel “eithaf swreal”; yr ail deitl mewn tair blynedd.

Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddwyd bod Alex yn un o’r cyntaf i arwyddo ar gyfer Sgwad Tân Cymreig, i gystadlu yn ‘The Hundred’ – cystadleuaeth fasnachfraint newydd 100 pêl yr ECB lle mae timau’r dynion a’r menywod yn adlewyrchu ei gilydd. Mae’n siŵr y bydd y gystadleuaeth flaenllaw hon yn sbarduno gyrfa Alex hyd yn oed ymhellach pan fydd yn dechrau.

Syrthiodd Alex mewn cariad â chriced yn ifanc. Yn wyth mlwydd oed, cafodd ei dewis ar gyfer sgwad dan 11 oed Cymru, lle gwelodd ei hyfforddwr Claire Nicholas ynddi seren y dyfodol: “Roedd hi’n amlwg ei bod hi’n arbennig cyn gynted ag y dewison ni hi,” meddai Nicholas. “Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn chwarae i Loegr yn y dyfodol.”

Pan oedd yn ddeuddeg oed, ymunodd Griffiths â’i hyfforddwr, yn chwarae i dîm hŷn y merched ac mae’r pâr wedi ymuno eto ar yr un tîm yn Tân Cymreig.

Dywedodd Sali-Ann Millward (Dirprwy Bennaeth yr Ysgol – Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus): “Mae Alex wedi bod yn fyfyrwraig wych yn Academi Chwaraeon Llandarcy ers dwy flynedd, yn astudio ei Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon. Mae ei chyflawniadau mewn criced wedi bod yn wych ac mae hi wedi ymdopi’n dda â’i hamserlen hyfforddi brysur a’i gwaith cwrs yn y coleg. Rydym wedi cefnogi Alex ar ei thaith, gan ganiatáu iddi weithio o bell pan oedd angen. Rydym wrth ein boddau ac yn falch o’i gweld yn dechrau ar ei gyrfa fel athletwraig broffesiynol ac yn dymuno’r gorau iddi ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a gyda Thân Cymreig.”

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau a’n cyfleusterau yn Academi Chwaraeon Llandarcy