Porth i Lwyddiant

Mae Scott Lewis wedi ennill Gwobr Myfyriwr Astudiaethau Sylfaen y Flwyddyn 2019-2020 ar gyfer Rhaglen y Porth yng Ngholeg y Drenewydd.  Ef hefyd oedd enillydd cyffredinol Gwobr Myfyriwr Shirley Davies FACL ar draws grŵp y Coleg.  Dyma’r wobr a enwyd mewn parch at y cyn Ddirprwy Bennaeth Astudiaethau Sylfaen, Shirley Davies, y bu iddi farw’n ddiweddar yn anffodus ym Mehefin 2020.

Mae’r dathliad blynyddol hwn o wobrwyo yn cydnabod myfyrwyr am eu cyfraniad eithriadol i’w cwrs.  Cynhelir seremoni fel arfer bob blwyddyn ar bob campws i gyflwyno eu tystysgrifau cyflawniad i fyfyrwyr, ond eleni gwnaed cyhoeddiad ar-lein yn lle hynny. Mae Gwobr Shirley Davies FACL yn cael ei rhoi i’r myfyriwr mwyaf rhagorol mewn Astudiaethau Sylfaen ar draws Grŵp Colegau NPTC cyfan ac mae’n cydnabod ymddygiad da cyffredinol drwy gydol y flwyddyn, ymdrech ardderchog ac ymgysylltiad.

Mae amrywiaeth o gategorïau o wobrau sy’n ystyried yr amrywiaeth eang o feysydd y mae myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen yn hyfforddi ynddynt o TGCh/y Cyfryngau ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Samplo Galwedigaethol, Sgiliau Bywyd a Chrefftau Ymarferol.  Mae’r gwobrau yn dilyn enwebiad gan eu tiwtoriaid o bob un o’r grwpiau sylfaen ac yna mae tîm rheoli’r ysgol yn dewis enillydd cyffredinol.  Mae’r gyfadran hefyd nawr yn cynnal digwyddiad llwyddiant myfyrwyr misol i gydnabod y dysgu o bell a gyflawnwyd, sy’n helpu i gadw’r myfyrwyr yn brysur.

Dywedodd Scott, ‘Rwy’n falch iawn o gael y wobr hon. Dwi wedi mwynhau’r holl gyfleoedd gwych mae’r cwrs wedi eu rhoi i mi ac rwy’n edrych ymlaen at fis Medi i ddechrau yn y coleg eto ac antur newydd.’

Meddai Sarah Welch, darlithydd Scott, ‘Rydyn ni mor falch o’n holl fyfyrwyr ac yn enwedig am eu hymroddiad dros y cyfnod o gyfyngiadau symud. Mae Scott Lewis wedi cynnal ymdrech eithriadol drwy gydol y flwyddyn, mae’n bleser i’w gael yn y dosbarth ac mae’n ymgysylltu’n dda ag aelodau eraill o’r dosbarth a’n holl weithgareddau. Mae wedi dangos ymroddiad a gwaith caled gwych drwy ei holl waith. Da iawn i Scott. Rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn arall o addysgu gyda Scott a’r holl ddosbarth yn y flwyddyn academaidd nesaf.’

Da iawn Scott!