Colegau’n cytuno ar ddull sector cyfan i’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddio gorchuddion wyneb

Wrth i ni ddechrau dychwelyd i Grŵp Colegau NPTC, rydym yn gofyn i’r holl staff a myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cymunedol. Mae hyn yn cael ei wneud yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ddull sector cyfan o sicrhau bod y lefelau uchaf o iechyd, diogelwch a hylendid yn cael eu cynnal i bawb.

Byddwch i gyd yn deall ein bod yn rhoi’r mesurau hyn ar waith i leihau’r risg i chi ac i’n staff. Er ein bod yn gwerthfawrogi nad yw gwisgo gorchuddion wyneb yn tynnu oddi ar rôl allweddol ymbellhau cymdeithasol  a hylendid dwylo ac anadlol da, gwyddom ei fod yn helpu i atal lledaeniad y firws Covid-19 gan bobl y gallai’r firws fod arnynt ond nad ydynt yn ymwybodol o hynny.

Pan fyddant yn y Coleg, bydd myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn grwpiau cyswllt ar gyfer addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Ar hyn o bryd, ni fydd yn ofynnol i fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol iddynt ddilyn y trefniadau ymbellhau cymdeithasol sydd wedi’u rhoi ar waith ac a benderfynir gan y math o raglen astudio y maent yn ei dilyn. Caiff y trefniadau hyn eu hegluro’n llawn gan y staff addysgu yn ystod y rhaglen gynefino.

Y tu allan i’r ystafell ddosbarth bydd yn ofynnol i’r holl fyfyrwyr a staff wisgo gorchuddion wyneb. Y rheswm am hyn yw ei bod yn anos glynu wrth reolau ymbellhau cymdeithasol a gall myfyrwyr gymysgu y tu allan i’w grwpiau cyswllt penodedig mewn mannau cymunedol.  Felly, i bwysleisio – am y rheswm hwn yr ydym yn gofyn i fyfyrwyr a staff wisgo gorchuddion wyneb er mwyn helpu i amddiffyn pawb.

Gofynnwn am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn ac i chi ddilyn y canllawiau sy’n cael eu rhoi. Rydym yn cydnabod y gall fod anghenion iechyd unigol a gall hyn olygu na all rhai staff a myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb tra byddant yn y coleg, a bydd canllawiau pellach ar gael ar y mater hwn.

Os byddwch yn teithio i’r coleg ar fws coleg neu drafnidiaeth gyhoeddus, yna gwrthodir mynediad i’r bws oni bai eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb. Gwnewch yn siŵr bod gennych orchudd wyneb gyda chi cyn i chi adael eich cartref i ddod i’r coleg.

Diolchwn i chi am eich cydweithrediad ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Grŵp Colegau NPTC.

 

Cliciwch yma i ddarllen datganiad i’r wasg Colegau Cymru ar orchuddion wyneb