Myfyrwyr HND Amaethyddiaeth yn ennill Graddau Gwych

Mae tair myfyrwraig wedi graddio’n ddiweddar o gampws y Drenewydd Grŵp Colegau NPTC ar ôl llwyddo i ennill graddau rhagoriaeth. Mae Aleshia Powell, Kira Newey a Libby Jones i gyd wedi ennill y graddau uchaf yn y cwrs ar ôl ennill eu cymwysterau Lefel 3 yn flaenorol, a hynny hefyd ar gampws y Drenewydd.

Mae’r myfyrwyr wedi derbyn canmoliaeth gan Martin Watkin, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth a ddywedodd, “Grŵp 2020 yw’r garfan gyntaf i gwblhau’r cwrs HND Amaethyddiaeth, ac mae cael tair myfyrwraig yn cyflawni’r radd uchaf bosibl yn ganlyniad gwych i’r triawd,  gan adlewyrchu’r gwaith caled a wnaethant dros y ddwy flynedd”.

Mae’r cwrs HND Amaethyddiaeth yn cyflwyno ystod amrywiol o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector tir. Mae Aleshia Powell wedi cymryd swydd gyda’r cwmni bridio gwartheg rhyngwladol Genus-ABS, mae Kira Newey wedi ymuno â Grŵp NPTC fel darlithydd mewn Amaethyddiaeth ac mae Libby Jones wedi cymryd rôl ar ei fferm deuluol.

“Cynlluniwyd y cwrs HND Amaethyddiaeth i gyd-fynd ag anghenion y rhai sy’n ceisio datblygiad proffesiynol, gan astudio ar lefel addysg uwch mewn coleg lleol tra’n eu galluogi i gyflawni ymrwymiadau eraill fel cyflogaeth ran-amser”, meddai Pennaeth yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth, Sue Lloyd-Jones.

“Mae’r tair ohonynt wedi gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau ac rwy’n falch iawn ohonynt a’r ffaith bod y cwrs wedi cyflawni ei amcan gwreiddiol”.

I gael rhagor o fanylion am y cwrs HND Amaethyddiaeth, gofynion mynediad a sut i wneud cais cysylltwch â Sue Lloyd-Jones ar Sue.lloyd-jones@nptcgroup.ac.uk.   I’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant, bydd yr HND yn denu cymhorthdal llawn yn y flwyddyn gyntaf (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd y cyflogwr).