Noson Agored Rithwir Grŵp Colegau NPTC

Y ffordd orau i ddod i adnabod Grŵp Colegau NPTC mewn gwirionedd yw dod i Ddiwrnod Agored. Ond ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni gadw pawb o’n cwmpas yn ddiogel trwy aros gartref. Felly er nad yw digwyddiadau corfforol yn bosibl ar hyn o bryd, rydym yn agor ein drysau’n ddigidol. Rydym yn cynnig ystod fawr o gymwysterau Safon U amser llawn a rhan amser, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau a hyd yn oed graddau mewn amrywiaeth o bynciau – felly gallwch fod yn sicr y bydd gennym y cwrs iawn i chi, gan roi popeth sydd ei angen arnoch i wneud dewis sy’n newid bywyd.

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 13eg Hydref rhwng 4.30pm-7.30pm ar-lein yn www.nptcgroup.ac.uk

 

Beth allwch chi ei ddisgwyl? 

  • Gwyliwch fideos byw a rhai a recordiwyd ymlaen llaw a sgyrsiau Holi ac Ateb byw gyda darlithwyr am y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo. 
  • Cewch wybodaeth am ddysgu a llesiant, cymorth ariannol a gwybodaeth am drafnidiaeth. 
  • Bywyd fel myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC – gair gan un o’n myfyrwyr.
  • Gwyliwch deithiau 360° o amgylch pob campws a’i gyfleusterau. 
  • Siaradwch â’r staff am gyngor ar y broses ymgeisio. 

Ni fu erioed yn haws ymuno â Grŵp Colegau NPTC – a’r newyddion da yw bod ceisiadau ar gyfer 2021 bellach ar agor. Gwnewch gais trwy system ymgeisio ar-lein wych y Coleg sydd mor gyflym a hawdd, gellir ei gwblhau o gysur eich soffa.

Rydym yn dda iawn yn yr hyn a wnawn, ac mae hynny’n swyddogol yn ôl Estyn. Amlygodd ein hadroddiad diweddaraf ymgysylltiad rhagorol y Coleg â chyflogwyr sy’n llunio ein darpariaeth i ddiwallu anghenion lleol. Mae ein dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac rydym yn eu paratoi ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth. Mae ein myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, ac yn bwysicaf oll mae Estyn yn credu bod ein hathrawon yn gymwys ac yn brofiadol, gyda phrofiad diwydiannol, masnachol a busnes defnyddiol. Ansawdd yr addysgu a’r ymroddiad hwn i ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd wedi cael eu cydnabod yn barhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2019, cawsom ein henwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru gan y Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Daeth y Coleg hefyd yn yr ail safle yn y DU gyfan ar gyfer ansawdd yr addysgu, yn bedwerydd am y profiad dysgu, yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth.

Yn 2020, fe wnaeth y Coleg yn arbennig o dda yn y gwobrau unwaith eto, gan gael ei enwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru, un o’r deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU, ail yn y DU ar gyfer y Coleg Addysg Bellach Orau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau, a 10fed yn y DU ar gyfer y Profiad Dysgu Gorau.

Mae’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

Nid dim ond ar gyfer ymadawyr ysgol y mae’r coleg chwaith, felly os ydych yn oedolyn sy’n chwilio am hobi newydd, yn dymuno ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith neu os oes angen cymwysterau arnoch i ddechrau gyrfa newydd, fe welwch ystod eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, rhai lefel prifysgol a chyrsiau proffesiynol yng Ngrŵp Colegau NPTC. 

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod chi!