Bywyd ar ôl Graddio

Graddiodd Michelle Dorise-Turrall o Grŵp Colegau NT ar ôl astudio BA (Anrh) mewn Busnes a Rheolaeth yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Mae’r cwrs gradd sy’n cael ei gynnig ar y cyd â Phrifysgol Glyndŵr yn caniatáu i fyfyrwyr ennill graddau ar stepen eu drws a chynhelir y darlithoedd ar gampws Bannau Brycheiniog.

Roedd Michelle a astudiodd y cwrs gradd sy’n para am dair blynedd, yn ffansio her ac eisiau datblygu ei gwybodaeth am fusnes. Ychwanegodd: “Ers i fy mhlant dyfu i fyny roedd yn ymddangos fel yr amser perffaith i ddechrau rhywbeth newydd ac ennill cymhwyster ar yr un pryd.”

Roedd gan y myfyriwr graddedig a enillodd radd dosbarth cyntaf ddiddordeb gwirioneddol yn y modiwl marchnata gyda Michelle yn ychwanegu: “Ni allaf argymell y cwrs yn ddigon, mae’r darlithwyr yn eich tywys ac yn eich llywio i’r cyfeiriad yr ydych chi am fynd iddo.”

Pan ofynnwyd iddi pam astudio yng Ngholeg Bannau Brycheiniog dywedodd Michelle: “Mae’n gyfleus, reit ar stepen fy nrws yn llythrennol ac maen nhw mor hyblyg, am fod plant gen i roeddwn i’n ansicr ynglŷn â sut y byddai’n gweithio ond roedd y darlithwyr wrth law bob amser yn caniatáu imi gydbwyso fy mywyd cartref a gwaith.”

Mae Michelle yn mynd ymlaen i ddweud: “Oherwydd y grwpiau llai, rydych chi’n cael cymaint mwy allan o’r cwrs, mae mwy o gyfle i eistedd i lawr gyda’ch darlithwyr yn rheolaidd a chael mwy o adborth. Fe wnaeth y dysgu hyblyg fy nhynnu at y cwrs yn fawr iawn. ”

Ychwanegodd Michelle a lwyddodd i gael swydd fel Rheolwr Datblygu Busnes yn Undeb Credyd Cymru yn syth ar ôl iddi raddio: “Rwy’n gobeithio dychwelyd i’r Coleg un diwrnod i gyflawni fy TBAR, gyda’r freuddwyd go iawn o ddod yn ôl i ddysgu yn y Coleg lle cychwynnodd popeth i fi.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cwrs Addysg Uwch, Cliciwch yma i ddarganfod mwy