Grŵp Colegau NPTC a Tsieina

Wrth i’r pandemig COVID-19 ddechrau yng ngwanwyn 2020, lansiodd Grŵp Colegau NPTC ei ymgyrch ‘Cefnogi ein cydweithwyr yn Tsieina’. Roedd yr ymgyrch hon yn cynnwys digideiddio cyflym er mwyn parhau i gyflwyno hyfforddiant rhagorol i’w gleientiaid Coleg Galwedigaethol Tsieineaidd.

Yn gyflym, fe ddatblygodd y Coleg Asesiad Portffolio Allanol ar-lein ar gyfer myfyrwyr Tsieineaidd sy’n astudio yn ei Goleg partner yn Shanghai. O ganlyniad, cwblhaodd 21 o fyfyrwyr eu rhaglen a derbynion nhw eu tystysgrifau ym mis Gorffennaf 2020, er gwaetha’r pandemig. Galluogodd hyn i fyfyrwyr symud ymlaen at lefel nesaf eu rhaglen. Bydd dros 100 o fyfyrwyr yn Tsieina wedi’u cofrestru ar raglenni Grŵp Colegau NPTC yn 2021 o Golegau yn Shanghai a Harbin. Astudir y rhaglenni hyn yn Tsieina, yn Tsieinëeg, ac maent yn cael eu cyflwyno gan eu Hathrawon Tsieineaidd.

Yn Beijing, ymatebodd Grŵp Colegau NPTC yn llwyddiannus i alw cynyddol wrth i Tsieina ddod allan o’u cyfnod clo gan ddefnyddio offer megis Voov (Tencent) a’r llwyfan Fideo-gynadledda WeChat i ddarparu hyfforddiant athrawon. Yn Harbin, cyflwynodd Grŵp Colegau NPTC ei Ddyfarniad Sylfaen mewn Hyfforddiant Athrawon i athrawon galwedigaethol, trwy grynhoi ei gwrs wyneb yn wyneb i raglen dysgu byr dwys ar-lein, a gyflwynwyd dros chwech hanner diwrnod. Mae’r Hyfforddiant Athrawon hwn wedi cael ei ddatblygu ymhellach gyda darpariaeth fanylach yn cael ei datblygu yn 2021.

At hynny, trwy gynadledda ar-lein, mae Grŵp Colegau NPTC wedi cyflwyno pum prosiect Datblygu Cwricwlwm, ac mae mwy ar y gweill.

Wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, ac wrth i’r heriau barhau, dangosodd Grŵp Colegau NPTC ystwythder wrth ailddatblygu ei raglenni hyfforddiant a symud yn gyflym i ddull cyflwyno ar-lein. O ganlyniad, a gyda thîm yn y fan a’r lle yn Tsieina, fe barhaodd i dyfu ei ôl troed a sylfaen gleientiaid yn Tsieina, er gwaetha’r heriau a achoswyd gan y pandemig.