Rôl Newydd i Gyfreithiwr yn y Coleg

Mae Grŵp Colegau NPTC yn cryfhau ei gysylltiadau cymunedol ac mae wedi penodi’r cyn-gyfreithiwr masnachol Gemma Charnock i arwain y ffordd.

Mae Gemma yn ymgymryd â’r swydd newydd Is-Bennaeth: Cysylltiadau Allanol ar ôl gweithio fel Pennaeth Cynorthwyol:  Llywodraethiant yn y Coleg cyn hynny, ac Ysgrifennydd Cwmni i holl is-gwmnïau’r Grŵp. Yn ogystal â pharhau â’r rolau hyn, bydd hefyd yn arwain ar yr holl berthnasoedd allanol, gan gyfeirio’r Coleg tuag at gael ei gydnabod fel busnes cyfrifol gyda mwy o ystyriaeth i nodau moesegol, amgylcheddol a chymunedol.

Fel sefydliad angor, mae’r Coleg eisoes yn chwarae rhan sylweddol wrth gyfrannu at y cymunedau y mae’n gwasanaethu ynddynt, a chan ei fod yn cwmpasu mwy na thraean o Gymru, mae eisoes wedi cael cryn effaith. Yn ogystal â darparu addysg, sgiliau a hyfforddiant i unigolion a busnesau ledled Cymru a Lloegr, mae hefyd yn cynnig cefnogaeth sy’n dod â buddion llesiant ac economaidd i gymunedau.

Mae ganddo lawer o gysylltiadau â’r gymuned, ac mae ei staff a’i fyfyrwyr yn gweithio gydag amrywiol grwpiau a sefydliadau, gan helpu i gefnogi mentrau sy’n arwain at newid cadarnhaol. Mae’r Coleg yn rhedeg fferm sy’n cynnig ‘porfa i’r plât’ ac mae ei ddau fwyty yn caniatáu i’r myfyrwyr baratoi, coginio a gweini prydau bwyd i’r cyhoedd. Mae ganddo hefyd ddwy theatr, gan gynnwys Theatr Hafren yng Ngholeg y Drenewydd a hefyd pwll nofio yng Nghwm Afan, sydd, mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, bellach yn gweithredu ar ran y gymuned pan oedd gynt dan fygythiad o gau. Mae dosbarthiadau dysgu oedolion hefyd yn cael eu cynnig yn y lleoliad. Mae gan y Grŵp hefyd ganolfan menter ‘Centreprise’, wedi’i lleoli yng Ngholeg Castell-nedd ond gyda chynlluniau i agor gwasanaeth tebyg yn Aberhonddu, sy’n cynnig gofod swyddfa, gwybodaeth a chyngor am ddim i gyn-fyfyrwyr a’r gymuned sy’n ceisio sefydlu eu busnes eu hunain. Cyfleuster arall sydd yng nghanol y gymuned yw ‘The CWTCH’ sydd wedi’i leoli ar safle’r hen Ganolfan Groeso yn Aberhonddu. Mae’r ganolfan gymunedol, sy’n rhan o Goleg Bannau Brycheiniog, yn darparu amryw gyfleoedd dysgu i drigolion lleol, ac mae’n ganolfan galw heibio, yn ogystal â lle i’w ddefnyddio gan grwpiau a chlybiau cymunedol.

Ymunodd Gemma, sy’n gyfreithiwr gweithredol, â Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl ennill mwy na 10 mlynedd o brofiad ym maes cyfreitha a datrys anghydfodau yn un o’r prif gwmnïau cyfreithiol rhanbarthol, Geldards LLP. Mae hi’n edrych ymlaen at fwrw iddi yn ei rôl newydd a dywedodd: “Fy mlaenoriaeth fydd datblygu perthynas gydweithredol gref gyda’n rhanddeiliaid. Byddaf yn gweithio i greu ymdeimlad o bwrpas a rennir wedi’i adeiladu ar degwch a chynaliadwyedd, sy’n grymuso pobl â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, yn cefnogi cynhyrchiant ac arloesedd busnesau ac yn cryfhau ymdeimlad ein cymunedau o le.”

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r penodiad yn allweddol er mwyn i ni adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn a bydd yn ein helpu i ddatblygu ein Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ymhellach yn ogystal â’n perthnasoedd cymunedol â rhanddeiliaid. Mae’n rhan fawr o’n nod i ddod yn fusnes cyfrifol go iawn.”