Camu nôl i’r cychwyn

Deryn Shepherd, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Bannau Brycheiniog (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn dychwelyd i’r coleg, ond y tro hwn yr ochr arall i’r ddesg.

Mae’r cyn-fyfyriwr Gofal Plant lefel 3 yn dychwelyd i’r coleg i ddechrau ei gyrfa fel darlithydd iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mae Deryn, a astudiodd yn y coleg rhwng 2010 a 2012 yn esbonio sut y rhoddodd ei hamser yn y coleg gyfle iddi deithio. Defnyddiodd Deryn y sgiliau a ddysgodd yn y coleg i ymgymryd â swyddi arweinydd gweithgareddau yn Alpau Ffrainc, a nani yn Seland Newydd ac Awstralia.

Ychwanegodd Deryn: “Roedd y wybodaeth a gefais o fod yn fyfyriwr yn y coleg yn amhrisiadwy. O fy nghyfnod yn y coleg roeddwn yn gallu cael gwaith fel nyrs feithrin, cynorthwyydd cyn ysgol yn ogystal â chynorthwyydd Addysgu yn y sector preifat.”

Mae Deryn yn mynd ymlaen i ddweud,  “Heb yr addysg a gefais yn y coleg, ni fyddwn wedi gallu cael fy swydd ddelfrydol. Mae’n well fyth fy mod i’n gallu dychwelyd ac addysgu yn y coleg lle enillais y wybodaeth a thyfu fel person.”

Wrth gyflawni ei rôl fel darlithydd yn y coleg mae Deryn hefyd yn astudio ar gyfer ei TBAR trwy grŵp colegau NPTC.

Gwnaeth Deryn y dewis i barhau i astudio yma gan fod “Coleg Bannau Brycheiniog bellach yn gyfleus i mi ac mae’r darlithwyr mor hawdd mynd atynt.”

I gael mwy o wybodaeth am ein Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant, cliciwch yma