Gwobr mewn Bricwaith gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

Cyflwynwyd Gwobr Brentisiaeth Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i Jude Mallaby sef dysgwr Grŵp Colegau, gan Keith Shankland, mewn cydnabyddiaeth o’i ymrwymiad i’w astudiaethau mewn bricwaith.

Mae Jude, sydd wedi cyflawni ei Brentisiaeth Lefel 2 mewn Bricwaith wedi mireinio ei ddiddordeb a’i sgiliau wrth gyflawni’r cwrs, ynghyd â gwella ei hyder, ar yr un pryd â chychwyn ar brentisiaeth gyda chwmni lleol O R E Brickwork LTD, sy’n darparu gwasanaethau adeiladu proffesiynol ar draws y fro.

Dywedodd Clare Ward, sef swyddog hyfforddi Grŵp Colegau NPTC: “Mae Jude wedi dangos ymrwymiad go iawn i’w rôl gydag O R E Brickwork Ltd.”  Yr un oedd sylwadau ei gyflogwr Keiran Evans, sef Cyfarwyddwr O R E Brickwork Ltd a ychwanegodd: “Mae Jude wedi camu ymlaen yn ei amser gyda ni, mae e’n gwrando ar ein cyfarwyddyd gan ei gymhwyso at ei rôl.’

Dywedodd Bill Evans ei ddarlithydd yng Ngholeg y Drenewydd: “Dwi wrth fy modd i weld Jude yn cael ei gydnabod am ei gynnydd a’i waith caled, mae e’n haeddu’r llwyddiant.”

Mae Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn anelu at feithrin dawn Gymreig ac yn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg gan ffocysu yn arbennig ar hybu sgiliau a gweithgareddau proffesiynol perthnasol yng Nghymru.  Enillodd Jude y Wobr Anrhydeddus Lifrai sef gwobr gyda’r diben o ddatblygu doniau pobl ifanc ar draws Cymru.