Mae Lucy yn cystadlu yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol

Mae’r adran trin gwallt a harddwch wedi bod yn dathlu ennill medalau yn rowndiau terfynol cenedlaethol y gystadleuaeth World Skills. Enillodd y myfyriwr Lucy Lewis fedal efydd yn y categori Ymarferwyr Therapi Harddwch ochr yn ochr â chyd-fyfyriwr harddwch Aimee Nurse o Goleg Afan a oedd yn cystadlu yn y categori Therapydd Harddwch.

Llwyddodd y ddau fyfyriwr i gael y gorau o’u nerfau er mwyn dangos eu doniau ym meysydd colur a thylino wrth gael eu hasesu.  Roedd rhaid i Lucy gyflawni diblisgo cyflawn o’r corff wedyn tylino cefn y corff, wedyn triniaeth dwylo gyflawn gyda gorffeniad Ffrengig, gan orffen gyda cholur cyflawn ysbrydoliaethus i orffen y golwg.

Dywedodd Lucy: “Roeddwn i’n arbennig o hapus a ches i sioc fawr i ffeindio allan fy mod i wedi cael fy enwi fel un o’r wyth cystadleuydd olaf yn y DU a dwi mor ddiolchgar fy mod i wedi cael cynifer o gyfleoedd i arddangos fy sgiliau yn ystod cystadlaethau.  Dwi wrth fy modd gyda fy medal efydd yn rowndiau terfynol y DU a hoffwn i ddweud diolch i fy nhiwtor rhagorol, Lisa Brandon, sydd wedi fy nghefnogi yn fwy na neb arall ac wedi fy annog ar bob cam o’r daith.”

Dywedodd Lisa Brandon Darlithydd ar gyfer Therapïau Cymhwysol yng Ngholeg y Drenewydd: ‘Mae wedi bod mor galed ar gyfer y myfyrwyr y tro hwn gyda llawer llai o gyfleoedd i ymarfer wyneb yn wyneb oherwydd y cyfyngiadau sydd mewn grym o ganlyniad i’r pandemig.  Felly, maent wedi gwneud yn arbennig o dda, wir nawr, ac rydyn ni’n falch iawn ohonynt.  Mae’n bleser hyfforddi Lucy sydd wastad yn awyddus i ddysgu ac wedi dangos sgiliau o safon mor uchel.  Mae Lucy wedi bod yn llwyddiannus ym mhob un o’r cystadlaethau y mae hi wedi cystadlu ynddynt, gan ennill aur ac efydd mewn cystadlaethau Skills Wales yn y gorffennol ac efydd erbyn hyn yn Rowndiau Terfynol y DU.”