Mae Theatr Gerdd Ieuenctid Prydain yn ysbrydoli Myfyrwyr i ddarganfod Theatr Gerddorol

Croesawyd Theatr Gerdd ieuenctid Prydain gan Grŵp Colegau i’w Canolfan y Celfyddydau Nidum yng Ngholeg Castell-nedd ar gyfer diwrnod gyrfaoedd a chlyweliadau o’r enw ‘Darganfod Theatr Gerddorol’, gan obeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddarganfod gyrfa yn y theatr.

Cafodd myfyrwyr wybodaeth am y llu o agweddau amrywiol ar gynhyrchu yn y theatr a’r math o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant.  Roedd profiad ymarferol yn cynnwys rhoi cynnig ar oleuadau ar y llwyfan gyda thechnegydd profiadol.

Cafodd cerddorion a pherfformwyr y cyfle i ddangos eu sgiliau mewn gweithdai a oedd yn sôn am glyweliadau proffesiynol. Cymerodd y cerddorion ran mewn sesiwn a oedd yn gofyn iddynt chwarae cerddoriaeth newydd fel ensemble, ac wedyn clyweliad unigol.  Rhoddwyd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio mewn grwpiau a oedd yn symud rhwng gweithgareddau dawnsio, actio a chanu.  Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y diwrnod lle yr oedd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i ystod o weithwyr proffesiynol profiadol ynglŷn â gyrfaoedd y tu ôl i’r llenni ac o flaen tŷ.

Roedd Jac Evans-Mason sydd yn fyfyriwr yn y Celfyddydau Perfformio yn ei ail flwyddyn wrth ei fodd gyda’r profiad.  Dywedodd: “Roedd y diwrnod yn bleserus a chyffrous o’r dechrau i’r diwedd.  Roedd yn ysbrydoledig ac mae wedi rhoi cipolwg ar yr ystod o swyddi sydd yn niwydiant y celfyddydau creadigol a pherfformio.  Mae hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli cwmpas y creadigrwydd y gallwch chi feddu arno fel perfformiwr i gydweithio gydag artistiaid eraill o fewn i’r diwydiant i greu darnau newydd i ddifyrru ac addysgu.”

Roedd ei gyd-fyfyriwr yn y Celfyddydau Perfformio Ellie McGuire wrth ei bodd hefyd: “Roedd y diwrnod yn rhoi blas ar bopeth! Roedd yn ffantastig gweld sut yr oedd swydd a oedd yn ymddangos mor bell ei chyrraedd yn agosach nag erioed ac mae wedi rhoi’r ysbrydoliaeth i fi geisio a gweithio hyd yn oed yn fwy caled byth i gael fy swydd ddelfrydol yn y Celfyddydau Perfformio.  Roedd y diwrnod o gymorth o ran fy hyder ac roedd yn beth braf gweld pa mor gyfeillgar yr oedd pawb yno a sut yr oedd fy nerfusrwydd yn diflannu bron yn syth.  Diolch yn fawr iawn am y cyfle!”

Dywedodd y darlithydd cerddoriaeth Carolyn Davies, a oedd wedi trefnu ac arwain y digwyddiad: “Roedd yn ddiwrnod ffantastig i bawb wir nawr. Llwyddodd pawb yn llwyr i fwynhau ei hunain ac roedd yn arbennig o gynhyrchiol. Hoffwn ddweud diolch i Theatr Gerdd Ieuenctid Prydain am roi’r cyfle unigryw hwn i’n myfyrwyr.”

Cliciwch yma i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yn y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio a’r cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael.