Noson Arobryn i Feithrinfa Ddydd Lilliput

Mae Meithrinfa Ddydd Lilliput wedi ennill dwy wobr yn y Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Castell-nedd Port Talbot.  Enillodd y feithrinfa wobr Llywodraeth Cymru, Pencampwr Lleoliad Cynnig Gofal Plant a’r wobr Gweithwyr Allweddol Covid. Cynhaliwyd y seremoni yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot a chafodd y feithrinfa ei henwebu hefyd ar gyfer y wobr Tîm Arbennig a’r wobr i Reolwyr.

Roedd y tîm ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yn falch o fod yn rhan o’r seremoni gyntaf Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar Castell-nedd Port Talbot gan obeithio y bydd y digwyddiad yn flynyddol.  Mae’r gwobrau mewn cydnabyddiaeth o waith caled ac ymrwymiad y feithrinfa a’r staff yn ystod adegau heriol ac anodd dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Andrea Tregoning, Rheolwr Meithrinfa Ddydd Lilliput: “Roedd y gydnabyddiaeth a gawsom ni am ein holl waith caled a’n hymrwymiad yn ffantastig a byddwn yn dal ati i gynnal a gwella ar y safonau uchel a gyflawnwyd gennym ni dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae sicrhau bod y plant yn cael y cychwyn gorau yn eu bywydau yn bwysicaf oll i minnau a’r holl staff.

Roedd gweithio drwy gydol y pandemig COVID-19 yn anodd iawn fel tîm ond wnaethon ni barhau i weithredu fel y gallai’r plant gael rhywfaint o normalrwydd a strwythur yn ystod y cyfnod cythryblus ac ansicr hwnnw. Am fod llawer o’r rhieni yn gweithio ar y rheng-flaen, cafodd bywydau eu plant eu chwalu’n llwyr.

“Fel Rheolwr y Feithrinfa, ni allaf gredu ymrwymiad fy nhîm a’r cariad y maen nhw wedi ei ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Dwi mor falch o Dîm Lilliput!”

Mae Meithrinfa Ddydd Lilliput yn deall pwysigrwydd datblygiad pob plenty ac yn darparu ystod eang o weithgareddau amrywiol, gyda phwyslais ar gael hwyl a dysgu trwy chwarae gyda staff cymwys.

Trwy ddilyn y fframwaith Cam Sylfaen, mae modd i bob plenty ddatblygu ar ei gyflymdra ei hun gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff profiadol a chymwys iawn.  Mae pob adran yn dilyn rhaglen sy’n cynnwys datblygiad personol a chymdeithasol, iaith a rhifedd, mathemateg a datblygiad corfforol a chreadigol.

Mae Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Ngholeg Castell-nedd ar agor rhwng 7.30am a 6.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener, trwy gydol y flwyddyn, ar wahân i Wyliau Banc ac wythnos y Nadolig.  Yn ystod gwyliau’r ysgol, cynhelir Clwb Gwyliau hefyd i blant rhwng 5 oed a 7 oed 11 mis.  Os hoffech ddysgu mwy am Feithrinfa Ddydd Lilliput a’r gwasanaeth a ddarperir ganddi, defnyddiwch y linc isod os gwelwch yn dda.

Feithrinfa Ddydd Lilliput