Does Dim Byd Haws i Jazmin

Jazmine Williams holding a Christmas Cake she has made.

Mae myfyriwr Arlwyo Coleg Y Drenewydd Jazmin Williams yn dangos ei bod hi’n fedrus wrth bobi gyda dawn ar gyfer Addurno Cacennau.  Enillodd Jazmin, o Ferriew, yr ail le yn y Gystadleuaeth CFfI Cymru CAFC a gynhaliwyd yn Ffair y Gaeaf yn Llanelwedd yn y categori ‘Addurno Boncyff Nadolig Siocled’.

Mae Jazmin ym mlwyddyn gyntaf ei chymhwyster VRQ1 Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol.  Mae hi’n cymryd ei hawydd i bobi o ddifri ar ôl magu enw da am gynhyrchu cacennau ddathlu ffantastig.  Mae hi wedi dod mor boblogaidd, ar ôl diwrnod yn y coleg, mae hi’n dechrau noson o bobi ac addurno.

Dywedodd Jazmin ei bod hi wedi cael ei denu gan y cwrs am ei bod yn chwilio am yrfa o fewn i’r diwydiant Arlwyo o bosib.  Mae hi wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd eisoes ynghyd â hyfforddiant mewn anoddefiadau bwyd yn ogystal â chymhwyster Diogelwch Bwyd Lefel 2 ar lefel rhagoriaeth.  Mae sgiliau addurno cacennau Jazmin wedi gwneud argraff fawr ar ei darlithwyr.  Dywedodd ei bod hi’n falch o weithio tuag at y cymhwyster a fydd yn cefnogi ei diddordeb mewn sefydlu ei busnes addurno cacennau ei hun.

Dywedodd y darlithydd arlwyo Tony Burgoyne: ‘Mae Jazmin yn dangos potensial da ar gyfer gyrfa o fewn i’r diwydiant lletygarwch. Rydyn ni’n ei gweld fel myfyriwr y byddwn yn ei hannog i gystadlu yng Nghystadlaethau Cymru Worldskills’.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch, ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 0330 818 8100