Balch o fod yn Ysgogwr Cenedlaethau’r Dyfodol

Portrait Picture of Wyn Prichard

Dewiswyd uwch ymgynghorydd busnes Grŵp Colegau NPTC fel un o Ysgogwyr Cenedlaethau’r Dyfodol 100 Cymru ar gyfer ei waith gwyrdd strategol a’i raglenni cynaliadwyedd.

Dros y saith blynedd ddiwethaf, mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw ar flaen y gad wedi bod yn ysbrydoli pobl ar draws Cymru i gymryd camau heddiw i greu dyfodol gwell. Rhoddwyd sylw i’w chyflawniadau dros y blynyddoedd gyda Sophie Howe ar y llw yn ei rôl fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. I nodi diwedd ei chyfnod yn y rôl taflir goleuni ar rai o’r bobl sydd wedi helpu i greu newid cadarnhaol. I lansio Ysgogwyr Cenedlaethau’r Dyfodol 100, cynhaliwyd digwyddiad hybrid a oedd yn cynnwys: Adfyfyrdodau gan Sophie Howe, a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru yn ogystal â llyfrgelloedd dynol yn rhannu eu straeon ynglŷn â gweithredu’r Ddeddf a chreu newid. Cyhoeddwyd rhestr o ‘100 ysgogwr newid’ – pobl ysbrydoledig sy’n creu newid cadarnhaol yng Nghymru hefyd ac mae’r rhestr yn cynnwys pobl busnes, beirdd, ymgyrchwyr cymunedol ac awdurdodau lleol o Gymru yn cynnwys Wyn.

Dywedodd ei bod yn anrhydedd i gael ei adnabod fel Ysgogwr Cenedlaethau’r Dyfodol a chanmolodd dîm Ysgogwyr Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer ei waith arloesgar a gyflawnwyd dros y saith blynedd ddiwethaf. Talodd deyrnged hefyd i’r gefnogaeth a roddwyd iddo gan Grŵp Colegau NPTC sef yr unig goleg sy’n bartner yn Ysgol y Gadwyn Gyflenwi Cynaliadwyedd ac fe’i hadnabyddir yn gorff arweiniol mewn sefydliadau cefnogol.  Mae Wyn hefyd yn falch o fod yn Gadeirydd yr Ysgol.

Dywedodd: “Ar ôl bod yn rhan o ddatblygu sgiliau am dros 30 mlynedd, rydw i wastad wedi teimlo cyfrifoldeb i hyrwyddo diwydiant Cymru, unigolion a phrentisiaethau yn y DU a’r tu hwnt.  Datblygwyd nifer o’r pethau arloesgar a’r rhaglenni yng Nghymru yn gyntaf, cyn cyrraedd gweddill y DU, yn llwyddiannus iawn, fel Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol.  Wrth i sector newydd gyrraedd, sy’n wahanol i olion traed traddodiadol y sector, mae angen ymagwedd flaengar newydd ar y cyd i fodloni’r disgwyliadau o ran ansawdd a chymhwysedd.

“Nid oes unrhyw unigolyn sy’n meddu ar yr wybodaeth ddofn na’r arbenigedd i ddeall cymhlethdod y sector newydd hwn, felly mae angen i bobl sy’n meddu ar yr wybodaeth berthnasol a’r arbenigedd i ddod at ei gilydd.”

Wrth i Wyn gyfeirio at ‘bobl’, mae e’n siarad am eu ‘ffrindiau’ sy’n meddu ar yr arbenigedd i helpu i hybu newid. Mae Wyn yn disgrifio’r sector gwyrdd/cynaliadwy newydd, fel cwilt clytiau a siwrnai darganfod am nad oes neb yn gwybod y dyluniad terfynol. “Dyna paham bod angen dewis yn ofalus o ran arbenigedd, cyd-weithio a phrofiad i sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn bodloni disgwyliadau pawb, ychwanegodd.”

Mae Wyn wedi gweithio i’r Coleg am nifer o flynyddoedd wrth weithio ar sawl brosiect ynni gwyrdd yn llwyddiannus yn cynnwys y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP), dan reolaeth SERO, sydd wedi ei benodi i rôl Cadeirydd y Gweithgor Hyfforddiant a Sgiliau. Rhoddwyd hyn gyfle iddo alw ar ei ‘ffrindiau’ sef pobl y mae wedi bod yn ymgysylltu â hwy yn bersonol ac mewn busnes am fwy na 20 mlynedd a gofyn iddynt gyfrannu at y grŵp.

“ Dyma’r cynsail yr adeiladwyd arno i ddatblygu fframwaith sgiliau, y tu hwnt i’r ORP a’m disgwyliadau, trwy aelodaeth gref gyda’r grŵp yn cael ei adnabod fel un o’r grwpiau allweddol yn y DU yn y maes arbenigol hwn. Un peth arall i’w ddweud am y clwt hwn o’r cwilt yw’r cydweithio cadarnhaol, y gefnogaeth ac agwedd ymarferol swyddogion adran Sgiliau Llywodraeth Cymru yn gyffredinol sydd wedi gwneud y peth mor llwyddiannus.  Cawsom gyfraniad gwerthfawr gan Ddatblygu Sgiliau’r Alban hefyd

Aeth ymlaen i ddweud, “Ochr yn ochr â gwneuthurwyr, gosodwyr a dyfeiswyr cynhyrchion, yn ogystal â seilwaith hyfforddi Cymru a fydd i gyd yn ganolog wrth ddarparu’r gofynion sgiliau a hyfforddiant i sicrhau ein bod yn arwain ar yr agenda hwn.   Rwyf wedi bod yn lwcus hefyd fel arfer i fod yr unig gynrychiolydd o Gymru mewn nifer o grwpiau o’r DU yn cynnwys cymuned prentisiaethau IFATE, gweithgorau BEIS, grŵp tasgau prentisiaethau gwyrdd a nifer o grwpiau datblygu T LEVEL, lle y mae’r trafodaethau wedi bod o werth mawr o ran ffurfio’r ymagwedd a gweithio yng Nghymru.

“O ystyried yr angen a ddaw yn fuan ar gyfer sgiliau gwyrdd/cynaliadwy ar gyfer diwydiant, gweithwyr presennol a phrentisiaethau, dylai’r gwaith a gyflawnwyd yn barod roi sbring fwrdd i’r ardal allu cael y blaen yn hytrach na thrio dal lan yn ôl yr arfer. Mae gennym gyfleoedd enfawr i fanteisio arnynt sef Homes as Power Stations, Afan Adventure Park, Rail Academy, cynlluniau rhanbarthol City Deal, yn ogystal â’r Celtic Freeport sydd ar y gweill ac mae gennym y grŵp gwybodaeth a sgiliau yn barod i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant.

“Wrth i fi gyrraedd diwedd fy ngyrfa, mae fy atgofion yn dangos bod rhai clytiau wedi’u cyflawni, ond dim y cwilt yn ei gyfanrwydd, felly mae angen cyflawni mwy o waith allweddol ond ‘gydag ychydig o gymorth gan fy ffrindiau’ gallai 2023 fod yn flwyddyn o gyflawniad mawr ac un rydw i’n edrych ymlaen ati.