Maldod ar gyfer Sul y Mamau! Archebwch driniaeth gwallt a harddwch arbennig i chi’ch hun yng Ngholeg Bannau Brycheiniog

Three lecturers at Brecon Beacons Colleges cutting hair on hair models in a salon.

Mae staff a myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog yn llawn cyffro i gynnig triniaeth arbennig i famau lleol mewn pryd ar gyfer Sul y Mamau. Am bris isel o £12, gallwch roi rhodd i’ch mam yn cynnwys triniaeth wyneb lawn, ffeilio ewinedd a lliw, ac yna golchi gwallt, steilio a gorffen.

Bydd yr apwyntiadau Sul y Mamau ar gael yr wythnos cyn y Diwrnod Mawr, sef dydd Llun 13eg a dydd Iau 16eg Mawrth. Gallwch archebu lle i ddechrau am 9.30am, 11.30am ac 1pm.

Bydd y sesiynau’n cael eu cyflwyno gan fyfyrwyr Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol, dan oruchwyliaeth gan diwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi yn y diwydiant. Mae’r Coleg yn darparu apwyntiadau yn y salon i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn ond, am y tro cyntaf, mae’r salonau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog wedi gwneud cynnig arbennig ar gyfer Sul y Mamau i groesawu pobl newydd i’r cyfleusterau. Mae’r salonau eisoes wedi bod yn brysur gyda chleientiaid eleni, ac mae’r myfyrwyr yn barod i gymryd rhan mewn digwyddiad cwbl newydd.

Trwy gydol eich apwyntiad, byddwch hefyd yn teimlo’n gartrefol gydag anrhegion am ddim a lluniaeth ysgafn. Os hoffech sbwylio’ch hun yn rhagor, bydd yna hefyd “siop dros dro” yn llawn o gynnyrch Lee Stafford ar werth. Cynigir y cynnyrch gan fod y Coleg yn rhan o Academi Addysg Lee Stafford.

I drefnu apwyntiad, ffoniwch: 0330 818 8034 neu cliciwch ar y botwm isod i lenwi ein ffurflen archebu ar-lein. Bydd y taliad yn cael ei gymryd ar ddiwrnod yr apwyntiad, drwy fodd arian parod neu gerdyn. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi cyn hir!

Cliciwch yma i archebu