Coleg Bannau Brycheiniog a Chlwb Jazz Aberhonddu i ddathlu 40ain Gŵyl Jazz gyda pherfformiad ym mis Mehefin

Students outside The Cwtch - Brecon Beacons College holding up Brecon Jazz Festival posters.

Eleni, mae Jazz Aberhonddu yn cael ei 40ain Ŵyl, ac i helpu i nodi’r achlysur, mae myfyrwyr lleol wedi cynllunio perfformiad awyr agored ar gyfer 8fed Mehefin. Gan barhau o gydweithrediad tebyg y llynedd gyda’r Clwb Jazz, bydd y digwyddiad yn bendant yn un i’w gofio yn dilyn misoedd o waith rhwng trefnwyr yr Ŵyl a Choleg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC).

Yn digwydd y tu allan i’r CWTCH, Coleg Bannau Brycheiniog, bydd myfyrwyr BTEC Busnes 16 oed a throsodd yn rheoli ‘diwrnod blasu cerddorol a gweledol’ ddydd Iau 8fed Mehefin fel rhan o’u gwaith cwrs. Yn dathlu 40 mlynedd diwethaf o hafau cerddorol Aberhonddu, prif sylw’r dydd fydd Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd yn perfformio cerddoriaeth fyw i’r dref ei chlywed a’i mwynhau. Bydd gan y myfyrwyr a Chlwb Jazz Aberhonddu hefyd stondinau i hyrwyddo rhaglen Gŵyl mis Awst sydd ar ddod yn ogystal â chod QR i bobl sy’n mynd heibio gyfrannu tuag at 40 mlynedd arall o ddiwylliant jazz bywiog yn y dref.

Mae’r dosbarth Busnes eisoes wedi dangos eu sgiliau hyrwyddo a chreadigrwydd trwy ddylunio poster y gig fel tîm (yn y llun). Gyda chymorth ffilm archif y Clwb Jazz, mae’r dysgwyr hefyd wedi llunio rîl fideo, a alwyd yn #40yrsyoung, o 40 mlynedd olaf hanes Jazz Aberhonddu i’w chwarae ar ddolen drwy gydol y dydd. Fis Mehefin diwethaf, achosodd myfyrwyr a’r Clwb Jazz ‘wow ffactor’ gyda’r sioe fideo yn cael ei harddangos ar sgrin awyr agored enfawr wrth ymyl yr ensemble, a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Audrey Tyler.

Os hoffech chi glywed cerddoriaeth fyw gan genhedlaeth newydd o berfformwyr jazz, mae croeso i bawb ddod draw rhwng 11:30am a 4pm ddydd Iau 8fed Mehefin, gyda seddau yn cael eu darparu gan y Coleg. Y CWTCH yw hen adeilad y Ganolfan Groeso ym Maes Parcio’r Co-op, Aberhonddu.

Cadwch lygad am adroddiad o’r digwyddiad, ynghyd â chyhoeddiad am arddangosfa oriel newydd yn Theatr Brycheiniog yn agor ar 6ed Gorffennaf, a fydd yn cynnwys gwaith jazz myfyrwyr y Coleg o’r ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y cyfamser, os hoffech chi gael gwybod mwy am y cynlluniau pen-blwydd 40ain, ewch i www.breconjazz.org. Cynhelir yr Ŵyl Jazz eleni ar 11-13eg Awst, gyda digwyddiadau arddangos ychwanegol wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnosau cyn ac ar ôl prif benwythnos yr Ŵyl (dydd Sul 6ed a Sadwrn/Sul 19eg a 20fed Awst).

Mae’r Tiwtor Astudiaethau Busnes, Romina West “mor hapus y bydd ein dysgwyr BTEC yn cynnal y digwyddiad hwn am ail flwyddyn yn olynol. Mae ein holl ddysgwyr blwyddyn gyntaf yn cael blas ar sut beth yw cynnal digwyddiad perfformio awyr agored, ac mae hyn yn wych ar gyfer eu sgiliau siarad cyhoeddus, trefnu, dylunio a gwaith tîm. Diolch i Glwb Jazz Aberhonddu am helpu i adeiladu eu hyder a rhoi’r cyfle hwn iddynt yn ystod blwyddyn brysur a chyffrous iawn i’r Ŵyl.”

Meddai Lynne, Sharon a Roger o Glwb Jazz Aberhonddu: “Mae gweithio gyda’r myfyrwyr eto wedi bod yn brofiad ysbrydoledig – maent yn defnyddio’r sgiliau a’r adnoddau diweddaraf yn y prosiect creadigol hwn, dan arweiniad tiwtoriaid hynod frwdfrydig a chefnogol, sydd oll yn glod mawr i’r Coleg.”

Welsh langauge poster with details of the Brecon Jazz Festival 2023 - 8th June, 11:30am - 4pm at The Cwtch, Brecon.