Myfyrwyr yn ymweld â Bike to the Future

Students Visit Bike to the Future

Yn ddiweddar cafodd myfyrwyr Porth Coleg y Drenewydd y cyfle i ymweld â Bike to the Future, elusen sydd wedi’i lleoli yn y Drenewydd, sy’n ymroddedig i hyrwyddo beicio. Cefnogwyd y daith gan Trafnidiaeth Cymru (TFW) sydd ar hyn o bryd yn ymgyrchu i bobl wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.

Cafodd y grŵp o wyth myfyriwr sgwrs gan y Rheolwr Prosiect Tom Chandler a roddodd drosolwg o’r prosiect Bike to the Future a chaniatáu i’r myfyrwyr archwilio amrywiaeth o feiciau, gan drafod gyda nhw eu prif nodweddion a rhai o fanteision defnyddio beic fel effaith amgylcheddol isel, ymarfer corff, manteision iechyd, a’u bod yn gallu bod yn  ddewis ariannol da yn lle mathau eraill o drafnidiaeth.

Dywedodd Sarah Welch, Darlithydd yn y Coleg, “Roedd yn ffordd wych i’n myfyrwyr feddwl am wahanol ddulliau o deithio, yr amgylchedd a’u helpu i feithrin eu hyder wrth deithio’n annibynnol.”