Her Codi Arian y Copa i’r Môr ar gyfer Iechyd Meddwl

Group of Llanadarcy Academy of Sports students standing outside with a bike.

Mae grŵp o fyfyrwyr yn Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi llunio her dygnwch newydd i godi arian y mae mawr ei angen ar gyfer elusen iechyd meddwl leol.

Cafodd myfyrwyr BTEC Lefel 2 Hyfforddi Chwaraeon y dasg o drefnu digwyddiad fel rhan o’u gwaith cwrs a phenderfynwyd defnyddio’u talent chwaraeon yn effeithiol, gan droi her y Môr i’r Copa ar ei phen a threfnu her Y Copa i’r Môr i godi arian ar gyfer Hwb@TheYnys, elusen iechyd meddwl sydd wedi’i lleoli ym Mhort Talbot.

Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr her y mis hwn, wrth ddringo Pen y Fan, copa uchaf Bannau Brycheiniog, ac yna’n beicio oddi yno i lan y môr ar Draeth Aberafan, Port Talbot – pellter o dros 30 milltir, i gyd mewn llai na 12 awr!

Dewisodd y myfyrwyr yr elusen leol Hwb@TheYnys ym Mhort Talbot fel canolbwyntio i’w hymdrechion codi arian. Fe’i sefydlwyd i ddarparu man diogel i aelodau’r gymuned rannu eu trafferthion. Gellir defnyddio’r Hwb hefyd ar gyfer prosiectau neu grwpiau lleol ac mae’r tîm yno’n cyflwyno sgyrsiau Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i glybiau chwaraeon ar draws gwahanol grwpiau oedran, gyda’r nod o chwalu rhwystrau a stigma.

Dywedodd Martyn Wagstaff o Hwb@TheYnys:

“Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan y myfyrwyr ar gyfer y prosiect codi arian. Bydd yr arian a godir yn helpu i barhau i ddarparu man diogel a hefyd yn cyflwyno sesiynau Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i lawer o grwpiau ar draws ein cymuned. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran gan bawb yn yr Hwb.”

Mae’r Darlithydd Chwaraeon Helen Jones, sy’n goruchwylio’r her, wedi’i hysbrydoli gan yr hyn y mae hi wedi’i weld: “Mae’r myfyrwyr wedi bod yn wych ac wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd dau grŵp yn cwblhau’r her. Un ar Fehefin 6ed a’r ail grŵp ar Fehefin 13eg. Mae’r myfyrwyr wedi dewis elusen oedd yn bwysig iawn iddyn nhw. Maent wedi sefydlu tudalen gofundme a bydd unrhyw roddion yn cael eu derbyn gyda diolch. Gobeithiwn godi cymaint o arian â phosibl at yr achos pwysig a pherthnasol hwn. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwblhau’r her hon yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.”

Os hoffech wneud cyfraniad, ewch i: https://gofundme.com/f/summit-to-sea-2023

I gael gwybod mwy am ein hystod o gyrsiau Chwaraeon, cliciwch ar y botwm isod:

Cyrsiau Chwaraeon