Coleg Y Drenewydd yn Derbyn Rhodd o Gwreiddiol Laura Ashley Fabrics ar gyfer Cwrs Ffasiwn Gynaliadwy

Mae Cwrs Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy Coleg y Drenewydd yn ddiweddar wedi derbyn detholiad mawr o ddefnyddiau printiedig gwreiddiol Laura Ashley.

Roedd darlithwyr a myfyrwyr ar Lefel 3 Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy yn hynod gyffrous i dderbyn y rhodd o ddefnyddiau o archif Laura Ashley. Maent yn cynnwys llawer o glustogwaith a defnyddiau ysgafn, sy’n bennaf yn rhai naturiol, i gyd â phrintiau nodweddiadol Laura Ashley gwreiddiol.

Dywedodd y darlithydd Carys Jones: “Rydym yn ddiolchgar iawn am rodd y defnyddiau gwreiddiol Laura Ashley hyn. Mae gan Ganolbarth Cymru gysylltiad cryf â Laura Ashley, ac mae wedi bod yn wych i’n dysgwyr gael y cyfle i ddylunio a chreu darnau unigryw wedi’u gwneud â llaw, gan roi bywyd newydd i’r darnau o ddefnydd gwreiddiol, eiconig hyn nad ydynt wedi cael eu defnyddio.”

Neilltuodd dysgwyr newydd ar y cwrs Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy Lefel 3 dair wythnos o’u cwrs amser llawn i ail-bwrpasu’r defnyddiau a roddwyd. Roedd y prosiect ‘Creadigaethau Arloesol gyda Defnyddiau Laura Ashley’ yn canolbwyntio ar greu dillad menywod fel ffrogiau a thopiau yn ogystal ag ategolion megis bagiau tote a gemwaith.

Mewn ymateb i gyflwyno’r defnyddiau dywedodd y dysgwyr,

“Rwyf wedi bod yn gyffrous iawn am y prosiect hwn gan ddefnyddio rhai o’r defnyddiau eiconig.” (Lilya Smith)

“Cyffrous iawn i ddewis o ystod mor eang o ddefnyddiau blodeuog hanesyddol sydd wedi’u rhoi i ni.” (Llywela Thomos)

Cyflwynodd y dysgwyr Ffasiwn Gynaliadwy eu gwaith terfynol ddiwedd mis Medi.

Bydd y Diploma Estynedig Lefel 3 newydd hwn mewn Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy yn cynnwys rhai prosiectau cyffrous.  Mae’r cwrs yn cefnogi meddwl creadigol ac arbrofi, ac felly’n helpu i ddatblygu diddordebau unigol gan weld creu cysyniadau dylunio newydd a chydag ymchwil ac ymarfer cyd-destunol gall arwain at ddewis o opsiynau gyrfa posibl megis; tecstilau, gosodweithiau, ffasiwn, gwisgoedd, ategolion neu ddylunio mewnol. Gall Ffasiwn a Thecstilau arwain at yrfa yn yr uchod, yn ogystal â steilio, teledu a theatr, darlunio, prynu a marchnata ffasiwn, rheoli manwerthu, gwneud hetiau, torri a llunio patrymau, a llawer mwy.

Cyn hir bydd Coleg y Drenewydd yn cyflwyno ystod o gyrsiau byr yn ogystal â’r cwrs llawn amser Lefel 3 Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy. Daw’r cyrsiau hyn fel rhan o lansiad cyffrous Academi Ffasiwn newydd i’w lleoli yn Adeilad Pryce Jones. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau mewn Ffasiwn a Thecstilau, e-bostiwch eich manylion cyswllt i newtownfashion@nptcgroup.ac.uk.

Cliciwch y botymau isod i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Ffasiwn Gynaliadwy.

Diploma Estynedig Lefel 3 Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy (Amser Llawn)

Lefel 1 Ffasiwn a Thecstilau (Rhan-Amser)