Mae Lansiad Swyddogol Watton Mount a’r Coetsiws yn Dynodi Cam Mawr yn y Broses o Drawsnewid Addysg yn Aberhonddu

Symudodd addysg bellach yn Aberhonddu gam arwyddocaol yn ei blaen yr wythnos hon gyda lansiad swyddogol Watton Mount a’r Coetsiws, dau adeilad nodedig yng nghanol y dref sydd erbyn hyn yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Grŵp Colegau NPTC ar gyfer Coleg Bannau Brycheiniog.

Arweiniwyd y seremoni agoriadol gan y triniwr gwallt Lee Stafford, gyda Mark Dacey, y Prif Weithredwr, a Dr Rhobert Lewis, Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth. Datgelwyd y cyfleusterau newydd ganddynt i gyd, cyfleusterau a fydd yn darparu mannau dysgu ar flaen y gad sy’n creu ‘naws campws prifysgol’ yng nghanol Aberhonddu.

Bydd Watton Mount yn gartref i gyfleusterau technoleg gwybodaeth uwch, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol mewn trin gwallt a harddwch. Ar yr un pryd, bydd y Coetsiws yn gweithredu fel salon dysgu masnachol, gan ddarparu cyfle i’r myfyrwyr hyfforddi mewn amgylchedd go iawn. Mae gan y ddau safle gyfleusterau technolegau modern, rhyngweithiol wedi’u dylunio i fodloni anghenion dysgwyr yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r lansiad yn dilyn trosglwyddo’r adeiladau o Gyngor Sir Powys i Grŵp Colegau NPTC, rhan o fenter adnewyddu ehangach i ddod â bywiogrwydd newydd i ganol y dref Aberhonddu. Mae’r prosiect yn cyd-fynd â datblygiadau blaenorol yn cynnwys “The Cwtch,” canolfan ddysgu gymunedol yn y dref a chyfleusterau newydd a rennir yn y Gaer, sy’n gartref i lyfrgell ar y cyd, llefydd dysgu a chaffi.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mark Dacey: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn yr arfaeth am gryn dipyn o amser ac rydyn ni wrth ein bodd bod popeth yn cael ei wireddu erbyn hyn. Mae’r buddsoddiad yn Watton Mount a’r Coetsiws yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddarparu addysg ragorol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yng nghanol Aberhonddu.”

Ychwanegodd Dr Rhobert Lewis, Cadeirydd Llywodraethwyr: “Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn cynrychioli buddsoddiad mewn addysg ond hefyd yn y gymuned ehangach. Byddent yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion, wrth gefnogi adnewyddu canol y dref Aberhonddu.”

Croesawyd y datblygiad gan Gyngor Sir Powys fel hwb arwyddocaol ar gyfer busnesau lleol a’r economi ehangach, gyda mwy o fyfyrwyr yn eu mynychu a mwy o ddefnydd gan y gymuned yn dod ag egni ffres i’r stryd fawr.

Daeth y digwyddiad i’w ben gyda theithiau o gwmpas Watton Mount a’r Coetsiws, lle y cafodd gwesteion y cyfle i weld y cyfleusterau newydd a chyfarfod â myfyrwyr a staff sydd eisoes wedi cael budd o’r llefydd wedi’u huwchraddio.