Mae Myfyrwyr Therapi Chwaraeon o Goleg Afan yn Gweithio Gyda Thîm Cynghrair Rygbi Cymru

Sports Massage Therapy students and their tutor with Wales Dragonhearts Rugby League team ourside Afan College

Tymor yr hydref hwn, cafodd myfyrwyr o’r cwrs Lefel 3 mewn Therapi Chwaraeon yng Ngholeg Afan y fraint o weithio gyda’r tîm Cynghrair Rygbi Cymru Dragonhearts.

Fel rhan o’u hyfforddiant ymarferol, darparwyd triniaethau tylino chwaraeon gan y myfyrwyr ar ôl digwyddiadau i gefnogi adferiad y chwaraewyr ar ôl sesiwn hyfforddi a’u helpu i ymbaratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Lloegr sy’n dod yn fuan.

Trefnwyd y sesiwn gan y tiwtor Wayne Robson-Brown, mewn cydweithrediad ag hyfforddwr tîm cyntaf y Dragonhearts.

Canmolwyd y myfyrwyr yn uchel gan dîm rheoli Cynghrair Rygbi Cymru, wrth sylwi ar eu hymddygiad proffesiynol ac ansawdd eu triniaethau a dweud y byddent yn “sicr o weithio gyda’r myfyrwyr unwaith eto,” gan ddisgrifio’r triniaethau tylino fel “enghreifftiol.”

Yn ystod y sesiwn, defnyddiwyd ystod o dechnegau tylino chwaraeon uwch gan y myfyrwyr yn cynnwys effleurage, petrissage, dirgryniadau, yn targedu grwpiau allweddol o gyhyrau fel coesau, gwddf, cefn ac ysgwyddau. Addaswyd dyfnder a phwysedd pob techneg i fodloni anghenion unigol pob chwaraewr.  At hynny, cyflwynwyd ymestyn goddefol i wella symudedd y cymalau ac adfer ystod normal o symudiadau i ymbaratoi ar gyfer perfformiadau’r dyfodol.

Mae profiadau fel hyn yn cynnig cyfleoedd dysgu go iawn gwerthfawr sy’n galluogi myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth a ddysgwyd at leoliadau proffesiynol go iawn. Mae gweithio’n uniongyrchol gyda thîm rygbi rhyngwladol yn helpu i fireinio eu sgiliau ymarferol, eu hyder a’u dealltwriaeth o therapi tylino chwaraeon mewn amgylchedd perfformiad uchel.

Myfyriodd Chris Dawson myfyriwr Lefel 3 Tylino Chwaraeon ar y profiad:

“Roedd gweithio gyda thîm Cynghrair Rygbi Cymru Dragonhearts yn brofiad ardderchog a oedd yn gwella fy nealltwriaeth o Therapi Tylino Chwaraeon. Rhoddwyd cyfle i fi gymhwyso’r technegau a ddysgais yn y coleg at athletwyr proffesiynol gydag anghenion adfer penodol.  Roedd y cyfle ymarferol hwn i gefnogi tîm chwaraeon proffesiynol yn foddhaol ac yn addysgol.

Mae astudio Lefel 3 mewn Tylino Chwaraeon yng Ngholeg Afan wedi rhoi’r profiad ffantastig i fi. Roedd wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy hyfforddiant mewn dull ymarferol a chael mewnwelediad go iawn i ofynion therapi chwaraeon. Roedd y profiad o weithio gydag amrywiaeth o gyrff gwahanol a thrin problemau unigol penodol y chwaraewyr hefyd wedi gwella fy sgiliau ymarferol. Roeddwn i wrth fy modd ar y diwrnod ac mae wedi tynnu sylw at ba mor effeithiol a chynhwysfawr yw’r dysgu yng Ngholeg Afan.”

Dragonhearts Cymru yw’r tîm sy’n cynrychioli system cynghrair domestig Cymru.  Mae’r holl chwaraewyr sy’n chwarae yn y gêm genedlaethol yn Nhe a Gogledd Cymru yn gymwys i gael eu dethol. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion amdanynt yma: https://rugbyleague.wales/about-the-dragonhearts

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cwrs Therapïau Chwaraeon, gallwch gael rhagor o fanylion a gwneud cais yma: https://www.nptcgroup.ac.uk/courses/level-3-diploma-in-sports-injury-prevention-and-management-vtct-full-time