Mae dau fyfyriwr blwyddyn olaf o raglen BSc (Anrh) Cyfrifiadura Gymhwysol Grŵp Colegau NPTC wedi sicrhau rolau graddedig o ansawdd uchel gyda’r busnes byd-eang blaenllaw, Siderise, gan amlygu cryfder partneriaethau diwydiant y Coleg a chyflogadwyedd myfyrwyr.
Mae Iestyn Clift wedi cael ei benodi’n Ddatblygwr Meddalwedd Cyswllt, yn dilyn arddangosiad trawiadol o allu JavaScript datblygedig a sgiliau datblygu apiau gwe. Mae ei gyd-fyfyriwr Owen Woodley hefyd wedi sicrhau swydd ar ôl rhagori mewn cyfweliad, gan ymgymryd â swydd fel Peiriannydd TG. Yn y rôl hon, bydd Owen yn cefnogi gweithrediadau DevOps yn Siderise, gan gydweithio’n agos â’r Prif Beiriannydd DevOps ar draws Datblygu Menter, Diogelwch a Gweithrediadau.
Mae’r penodiadau hyn yn adeiladu ar y berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng Grŵp Colegau NPTC a Siderise. Mae Pennaeth TG Byd-eang y cwmni, Michael O’Callaghan, yn un o gyn-raddedigion y Coleg ac yn parhau i fod yn bartner cyflogwr a siaradwr gwadd gweithredol. Mae Michael yn dychwelyd i’r Coleg yn rheolaidd i gyflwyno sesiynau tiwtorial, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i fyfyrwyr i’r diwydiant TG a llwybrau gyrfa.
Yn fwyaf diweddar, cymerodd Michael ran hefyd yn Fforwm Gyrfaoedd i Raddedigion y Coleg, lle cyfrannodd at sesiwn panel holi ac ateb, gan rannu ei brofiad a’i gyngor gyda myfyrwyr Addysg Uwch a Mynediad i AU sy’n paratoi i ymuno â’r byd gwaith. Mae ei gyfranogiad yn dangos ymhellach ei ymrwymiad parhaus i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddoniau yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Mae Siderise wedi recriwtio graddedigion o’r rhaglen yn flaenorol ac yn parhau i fuddsoddi mewn doniau sy’n dod allan o Grŵp Colegau NPTC wrth i’w dîm ehangu.
Mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn dangos sut mae myfyrwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i rolau proffesiynol yn eu maes dewisol ac ar yr un pryd parhau i gwblhau eu hastudiaethau — cyflawniad sylweddol yn yr hyn a gydnabyddir yn gyffredinol fel marchnad swyddi graddedigion sy’n hynod gystadleuol.
Dywedodd Michael O’Callaghan, Pennaeth TG Byd-eang yn Siderise:
“O fewn y swyddogaeth TG yn Siderise, yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i mi yw personoliaeth a meddylfryd. Mae technoleg yn newid yn hynod o gyflym ac mae hynny’n parhau i gyflymu, felly mae’r awydd a’r gallu i ddysgu ac addasu yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Mae ein perthynas â Grŵp Colegau NPTC a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn stori lwyddiant go iawn i ni. Drwy’r rhaglen BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol, rydyn ni wedi cyflogi nifer o raddedigion o safon uchel dros y blynyddoedd.
Yr hyn sydd wedi creu argraff arna i yn gyson yw ansawdd y myfyrwyr sy’n dod trwy’r rhaglen. Nid yn unig y maen nhw’n cyrraedd gyda sylfaen dechnegol gadarn, maen nhw hefyd yn barod i ddysgu, ymgymryd â heriau a datblygu’n broffesiynol.
Fel cyflogwr, mae’r berthynas hon yn rhoi mynediad i ni at unigolion dawnus sy’n barod i ddechrau adeiladu eu gyrfaoedd, gan roi llwybr clir o addysg i ddiwydiant i fyfyrwyr. Mae’r ffaith ein bod ni wedi parhau i recriwtio o’r rhaglen yn siarad drosto’i hun.”
Dywedodd Andrew Green, Darlithydd Cyfrifiadura Cymhwysol yng Ngrŵp Colegau NPTC:
“Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion bod dau o’n myfyrwyr wedi cael swyddi cyntaf delfrydol yn y diwydiant digidol. Mae’r ddau fyfyriwr wedi perfformio’n dda iawn eleni ac wedi dangos ymagwedd fanwl ac angerddol at eu prosiectau, gan eu galluogi i ddatblygu sylfaen sgiliau gadarn. Rwy’n sicr y bydd y ddau ohonyn nhw’n profi’n gyflym eu bod yn gaffaeliad gwerthfawr i Siderise.”
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Colegau NPTC:
“Mae ein partneriaethau cryfion gyda chyflogwyr fel Siderise yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol, perthnasol i’r diwydiant, sydd eu hangen i lwyddo. Mae gweld dysgwyr yn sicrhau rolau proffesiynol ac ar yr un pryd parhau i gwblhau eu hastudiaethau’n gymeradwyaeth wych o’u gallu ac o ansawdd y rhaglen.”
Wrth i gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion barhau i fod yn heriol yn genedlaethol, mae llwyddiannau fel y rhain yn atgyfnerthu gwerth dysgu cymhwysol, ymgysylltu â chyflogwyr, a llwybrau addysg a anelir at yrfaoedd.
I gael gwybod mwy am y rhaglen BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol yng Ngrŵp Colegau NPTC, Cliciwch isod.
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol