Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi penodiad Catherine Lewis yn Brif Weithredwr newydd, yn dilyn proses recriwtio hynod gystadleuol a thrylwyr dan arweiniad Bwrdd y Gorfforaeth.
Mae gan Catherine, sy’n gwasanaethu fel Pennaeth Grŵp Colegau NPTC ar hyn o bryd, brofiad helaeth mewn Addysg Bellach, ochr yn ochr â hanes profedig o arweinyddiaeth a darpariaeth strategol. Roedd penderfyniad y Bwrdd yn unfrydol, gan gydnabod Catherine fel yr ymgeisydd rhagorol o faes allanol cryf. Bydd hi’n dechrau yn ei rôl newydd ym mis Medi.
Mae’r penodiad hwn yn nodi moment pwysig i Grŵp Colegau NPTC wrth iddo barhau i gryfhau ei rôl ar draws cymunedau ac adeiladu ar ei weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae’r Bwrdd wedi mynegi ei hyder y bydd arweinyddiaeth, gwerthoedd ac arbenigedd Catherine yn tywys y sefydliad i’w gam nesaf o ddatblygu a llwyddiant.
Ar yr un pryd â’r cyhoeddiad hwn, mae’r Bwrdd wedi estyn ei ddiolch diffuant i’r Prif Weithredwr sy’n ymadael, Mark Dacey, a fydd yn camu i lawr yn ddiweddarach eleni. Mae Mark yn gadael gwaddol eithriadol ar ôl gyrfa nodedig a barodd bron i ddeugain mlynedd mewn Addysg Bellach, gan gynnwys bron i 23 mlynedd yn arwain Grŵp Colegau NPTC.
Wrth siarad am y cyfnod pontio, dywedodd Mark Dacey:
“Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu Grŵp Colegau NPTC a bod yn rhan o sefydliad sydd â gwaddol mor falch, enw da rhagorol a gwreiddiau dwfn yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni i gyd yn warcheidwaid rhywbeth arbennig iawn a adeiladwyd dros genedlaethau trwy ymrwymiad, ymroddiad ac arbenigedd ein staff, ein Llywodraethwyr, ein dysgwyr a’n partneriaid.
Wrth i mi drosglwyddo’r awenau, gwnaf hynny gyda balchder aruthrol yn yr hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd a gyda hyder mawr am y dyfodol. Mae Grŵp Colegau NPTC mewn dwylo diogel. Rydym yn ffodus i gael staff eithriadol y mae eu hangerdd a’u proffesiynoldeb yn parhau i wneud gwahaniaeth bob dydd, ac rwyf wrth fy modd bod Catherine Lewis wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr nesaf.
Mae Catherine eisoes wedi dangos ei hymrwymiad i’r Coleg fel Pennaeth a Dirprwy Brif Weithredwr ers blynyddoedd lawer. Mae hi’n deall ein gwerthoedd a’n huchelgeisiau, ein cymunedau, ein cenhadaeth a’n potensial, a rwy’n gwybod y bydd hi’n darparu’r arweinyddiaeth sydd ei hangen i symud y Grŵp ymlaen i’w bennod nesaf o lwyddiant.
Dymunaf bob llwyddiant i Catherine ar gyfer y dyfodol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Grŵp Colegau NPTC yn parhau i ffynnu a chreu effaith gadarnhaol ar draws Cymru ac yn ehangach am flynyddoedd lawer i ddod.”